Canolfan Datblygu Pêl-rwyd
Mae Chwaraeon Prifysgol Caerdydd yn falch o roi cyfle i chwaraewyr pêl-rwyd medrus ysgol gynradd ac uwchradd ddatblygu mewn partneriaeth â Phêl-rwyd Cymru.
Mae Canolfan Datblygu Pêl-rwyd Prifysgol Caerdydd yn cynnig y cyfle i chwaraewyr pêl-rwyd addawol ymarfer a chwarae mewn amgylchedd sy'n cynnig cyfleoedd i ddatblygu, yn ychwanegol i unrhyw sesiynau gyda'r ysgol/clwb maent eisoes yn cymryd rhan ynddynt.
Mae ein sesiynau ysgol gynradd yn addas ar gyfer chwaraewyr o bob gallu tra bod ein sesiynau ysgol uwchradd yn addas ar gyfer chwaraewyr pêl-rwyd sydd â phrofiad blaenorol o chwarae.
Mae ein rhaglen dechnegol wedi'i chynllunio i ddatblygu, cefnogi ac annog chwaraewyr pêl-rwyd talentog.
Rhowch Gynnig Arni / Digwyddiadau Adnabod Talent
Mae ein digwyddiadau Rho Gynnig Arni ar gyfer tymor 2022 - 2023 eisoes wedi’u cynnal, ond mae croeso i unrhyw chwaraewyr sydd â diddordeb mewn ymuno â’n canolfan gysylltu â ni.
Mae Canolfan Datblygu Pêl-rwyd Prifysgol Caerdydd yn hygyrch i chwaraewyr ym mlynyddoedd ysgol 3 hyd at flwyddyn 10.
Hyfforddiant a digwyddiadau
Bydd chwaraewyr a ddewiswyd ar gyfer Canolfan Datblygu Pêl-rwyd Prifysgol Caerdydd yn mynychu sesiynau ymarfer wythnosol ym Mhentref Hyfforddi Chwaraeon Prifysgol Caerdydd. dros 3 bloc ymarfer fel arfer rhwng mis Hydref a mis Mai. Bydd aelodau o'r garfan yn cael hyfforddiant o safon gan hyfforddwyr cymwys a phrofiadol. Mae ein rhaglen, sy’n canolbwyntio ar y chwaraewr, yn pwysleisio elfennau o chwarae megis datblygu sgiliau technegol a gwella dealltwriaeth tactegol mewn amgylchedd sy'n llawn hwyl ond sydd hefyd yn herio.
Cysylltu â ni
Cysylltwch â ni os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth: