Pentref Hyfforddiant Chwaraeon
Mae'r Pentref Hyfforddiant Chwaraeon yn cynnig amrywiaeth o gyfleusterau chwaraeon awyr agored â llifoleuadau ac yn cynnal gweithgareddau chwaraeon dan do.
Defnyddio’r cyfleusterau
Ystafelloedd newid
Mae ystafelloedd newid yn rhad ac am ddim i aelodau neu £1.50 fesul tro. Mae’n bosibl llogi’r ystafelloedd newid cyfan.
Cadw Lle
Gellir cadw lle ar gyfer y sesiynau ffitrwydd a’r cyrtiau amrywiol ymlaen llaw trwy ein ap Chwaraeon.
Cysylltwch â'r dderbynfa os oes gennych ymholiadau pellach. Mae defnyddio cyfleusterau chwaraeon y Brifysgol yn amodol ar delerau ac amodau (PDF).
Derbynfa’r Pentref Hyfforddiant Chwaraeon
Pentref Hyfforddiant Chwaraeon, Tal-y-bont, CF14 3AT







Oriau agor
Mae'r Pentref Hyfforddiant Chwaraeon ar agor ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 07:30 ac 23:00, a rhwng 08:30 ac 20:30 ar y penwythnos.
Mae'r cyfleuster ar gau ar wyliau banc.
Bydd ein cyfleusterau chwaraeon ar gau o ddydd Llun, 23 Rhagfyr tan 2 Ionawr. Mae dosbarthiadau ffitrwydd i grwpiau’n dod i ben ar 6 Rhagfyr ac yn ailddechrau ar 27 Ionawr.
Mynediad
Mae mynediad i geir trwy Western Avenue. Trowch i mewn i Ffordd Excelsior (tuag at Tesco Extra), yna yn y gylchfan gadewch wrth yr allanfa gyntaf, ac yna trowch i'r dde yn syth i Lety Myfyrwyr Tal-y-bont.
Mae parcio hygyrch ar y safle. Mae'r dderbynfa a'r ystafell ffitrwydd wedi'u lleoli ar y llawr gwaelod sy'n hygyrch trwy ddrysau awtomatig. Mae'r cyfleusterau newid ar y llawr gwaelod.
Mae ein haelodaeth aur a phlatinwm yn rhoi prisiau gostyngedig a mynediad diderfyn i rai cyfleusterau dros 12 mis