Ewch i’r prif gynnwys

Y Ganolfan Ffitrwydd a Datblygiad Corfforol

Dyma gyfleuster sydd newydd gael ei ailwampio ac sy’n cynnig tri llawr o offer cardiofasgwlaidd, ymwrthiant a chodi pwysau.

Mae’r llawr uchaf yn benodol ar gyfer cryfhau a datblygu’r corff, er mwyn i chi allu datblygu eich gallu ym myd y campau cymaint â phosibl.

Mae’r ystafell ffitrwydd yn cynnwys ystod eang o offer ymwrthiant, ynghyd â pheiriannau cardiofasgwlaidd a uwchraddiwyd yn ddiweddar sydd â chapasiti clyweledol a chysylltiad â’r rhyngrwyd.

Ar y llawr uchaf, mae’r ddarpariaeth newydd o’r radd flaenaf ar gyfer cryfhau a datblygu’r corff yn cynnwys:

  • 6 rac llawn
  • 2 hanner rac
  • Rig Monster
  • 2 beiriant Skillmill
  • 4 wattbike
  • 2 feic Assault
  • SkiErg
  • Raciau dymbel (hyd at 60kg)
  • system sain newydd

Defnyddio cyfleusterau

Mae ein cynlluniau aelodaeth, sy’n werth yr arian, yn eich galluogi i ddefnyddio ein holl ystafelloedd ffitrwydd, gan gynnwys y Ganolfan Ffitrwydd a Datblygiad Corfforol newydd, yn ddigyfyngiad.

Cadw cyfleuster neu le mewn dosbarth/sesiwn

Gellir cadw cyfleuster neu le mewn dosbarth/sesiwn hyd at 14 diwrnod ymlaen llaw drwy’r ap Sport. Mae defnydd o gyfleusterau chwaraeon y Brifysgol yn gorfod bodloni telerau ac amodau.

Derbynfa'r Ganolfan Ffitrwydd a Sboncen

Y Ganolfan Ffitrwydd a Datblygiad Corfforol, Ffordd Senghennydd, Caerdydd CF24 4AY

Gweld yn Google Maps

Oriau agor

Mae’r Ganolfan Ffitrwydd a Datblygiad Corfforol ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 06:45 a 22:00 yn ystod y flwyddyn academaidd a rhwng 08:00 ac 16:00 ar ddydd Sadwrn a dydd Sul.