Ewch i’r prif gynnwys

Hyrwyddo'r Gymraeg a diwylliant Cymru

Welsh flag

Rydym yn falch o fod yn brifysgol Gymreig ac rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo a dathlu iaith a diwylliant Cymru.

Mae'r Gymraeg yn rhan annatod o'n hunaniaeth, ein gwaith, ein cymunedau, a'n harferion o ddydd i ddydd, yn y brifysgol a thu hwnt.

Yr Academi Gymraeg

Nod yr Academi Gymraeg yw cysylltu'r rhai sy'n ymwneud â'r Gymraeg, yn y brifysgol ac yn ein cymunedau ehangach. Mae'r Academi, sydd wedi'i lleoli mewn dinas gosmopolitanaidd, gyfeillgar, amlieithog ac amlddiwylliannol, yn adlewyrchu ein nodau fel sefydliad Cymreig sydd â safbwynt byd-eang.

Mae'r Academi yyn dwyn ynghyd ac yn cydlynu mentrau parhaus ein staff i ymgysylltu â'r gymuned leol, genedlaethol a byd-eang a'i chefnogi. Mae ein hacademyddion yn aml yn cymryd rhan mewn trafodaethau cyhoeddus ac ym myd polisi am faterion pwysig yng Nghymru, ac mae ein haddysgwyr Cymraeg eu hiaith yn cynnal gweithgareddau ymgysylltu ag ysgolion ledled Cymru.

Rydym hefyd yn chwilio am ffyrdd i annog defnydd o'r iaith yn y ddinas. Gwersi Cymraeg i siaradwyr Arabeg oedd un o'n prosiectau diweddaraf a ariannwyd gan yr Academi, a chynhaliwyd hi ym Mhafiliwn Grangetown, canolfan gymunedol a adeiladwyd gyda chymorth prosiect ymgysylltu Prifysgol Caerdydd, Porth Cymunedol Grangetown.

Cysylltwch â ni am fwy o fanylion ac i ddysgu sut y gallwch gymryd rhan yn ein prosiectau sydd ar y gweill:

Yr Academi Gymraeg

Gwyliau Cymru

Gyda phartneriaethau â'r Eisteddfod Genedlaethol, Eisteddfod yr Urdd, Gŵyl y Gelli, ymhlith gwyliau eraill, rydym yn cymryd rhan yn y digwyddiadau hyn ac yn eu cefnogi wrth gynnwys ymwelwyr yn ein hymchwil a'n haddysgu drwy sgyrsiau deniadol, trafodaethau bywiog a gweithgareddau ymarferol.

Dysgwch fwy am ein gwaith gyda gwyliau drwy Gymru benbaladr yma:

Croseo sign at Urdd

Eisteddfod yr Urdd

Eisteddfod yr Urdd yw un o wyliau ieuenctid mwyaf Ewrop sy'n dathlu ein diwylliant a'n hiaith.

Gwyliau Cymru Tafwyl

Tafwyl

Mae Tafwyl yn dod â'r gorau o gerddoriaeth, celfyddydau a diwylliant Cymraeg at ei gilydd yng nghalon ein prifddinas bob blwyddyn.

image of Eisteddfod sign and Cardiff University bag

Eisteddfod Genedlaethol

Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol yn ystod wythnos gyntaf mis Awst bob blwyddyn, ac mae'n ddathliad o'r celfyddydau, iaith a diwylliant Cymraeg.

Cydweithio ag Prifysgol Waikato

Mae academyddion o Brifysgol Caerdydd yn cydweithio â chydweithwyr ym Mhrifysgol Waikato yn Seland Newydd i ganfod pwyntiau cyswllt rhwng te reo Māori (yr Iaith Māori), te ao Māori (byd / byd olwg Māori) a diwylliant yr iaith Gymraeg drwy lens cerddoriaeth llawr gwlad.

Daeth cerddorion o Gymru ac Aotearoa (Seland Newydd) yn dod at ei gilydd, gan gychwyn yng ngŵyl FOCUS Wales sy’n digwydd cyn hir, lle bydd y band Māori Half/Time yn perfformio ochr yn ochr â bandiau Cymreig, gan gynnwys CHROMA, Adwaith a Lemfreck. Cyfwelodd ymchwilwyr ag artistiaid am eu profiadau.

Cynhaliwyd trafodaeth banel am iaith, hunaniaeth a chreadigrwydd mewn cerddoriaeth llawr gwlad Gymraeg a Māori yn y brifysgol a gellir ei gwylio isod.

Watch the panel discussion