Cofleidio ymgysylltiad cymunedol
Rydym yn defnyddio ein hystod eang o arbenigedd i gefnogi a chyflwyno prosiectau effeithiol a arweinir gan y gymuned ochr yn ochr â gwirfoddolwyr myfyrwyr a staff.
Gyda’n gilydd rydym yn chwarae rhan bwysig o ran llunio prosiectau sy’n ceisio mynd i’r afael â thlodi ac anghydraddoldebau cymdeithasol, rhoi hwb i’r economi a gwella iechyd, addysg a lles.
Mae ein hymchwilwyr academaidd yn gweithio ar draws disgyblaethau ac yn estyn allan y tu hwnt i'r byd academaidd i ddeall a mynd i'r afael yn well â'r heriau mawr sy'n wynebu cymdeithas, yr economi a'r amgylchedd. Mae ein staff ymchwil a'n myfyrwyr yn archwilio dulliau newydd yn barhaus i ymgysylltu â'r gymuned ar ymchwil sy'n cael effaith ystyrlon ar fywydau pobl. Maent yn gweithio'n benodol gyda grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.