Ewch i’r prif gynnwys

Ein huchelgais

Rydyn ni'n rhoi ein cymunedau wrth wraidd popeth a wnawn. Dyma’r hyn yr ydym yn ei alw’n genhadaeth ddinesig.

Rydym wedi bod yn ymateb i heriau mawr sy'n wynebu cymdeithas ac yn ymgymryd â gwaith er budd y cyhoedd ers ymhell dros 130 mlynedd. Rydym wedi ymrwymo i wella iechyd, cyfoeth a lles y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu a hefyd wedi cymryd ein rôl o ddifrif i hyrwyddo cynaliadwyedd ac amrywiaeth amgylcheddol.

Ymgysylltu â'r Cyhoedd

Mae Ymgysylltu â'r Cyhoedd yn adeiladu ar y sylfeini cadarn a osodwyd gan ein gwaith seiliedig ar le mewn cenhadaeth ddinesig. Rydym yn gwneud hyn drwy amrywiaeth o weithgareddau sy'n canolbwyntio ar fynd i'r afael ag anghydraddoldebau cymdeithasol, estyn allan at bobl ifanc a chymunedau sydd wedi'u hallgáu'n lleol, drwy Gymru benbaladr a thu hwnt. Rydym am gefnogi'r rhai a fydd yn elwa o'n hymchwil, ein gwybodaeth a'n haddysgu.

Rydym yn gweithio gydag aelodau'r cyhoedd i siapio, cyflawni a rhannu ein gwaith yn genedlaethol ac yn fyd-eang i agor deialog gyhoeddus a chreu budd i'r ddwy ochr.

Dysgwch sut rydym yn defnyddio ein hymchwil, ein haddysgu a'n harbenigedd i fod o fudd i'n cymunedau amrywiol drwy ein gweithgareddau ymgysylltu â'r cyhoedd amrywiol.

Ein nod yw cael ein cydnabod yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol am ein cenhadaeth ddinesig gydweithredol a chynhwysol a'n harfer ymgysylltu â'r cyhoedd.

Adeiladu'n ôl yn decach o'r pandemig

Mae argyfwng iechyd a chymdeithasol y coronafeirws wedi peri i ni ailfeddwl sut y gallwn ddefnyddio ein harbenigedd yn well er budd ein cymunedau amrywiol. Rydym yn benderfynol o wneud ein rhan wrth achub, adfywio ac adnewyddu gobeithion economaidd, diwylliannol a chymdeithasol Cymru.

Byddwn yn adeiladu'n ôl yn decach o'r pandemig, gyda ffocws penodol ar genedlaethau'r dyfodol. Byddwn yn cymryd rhan flaenllaw wrth fynd i'r afael ag anghydraddoldebau cymdeithasol a'r argyfwng hinsawdd byd-eang. Byddwn yn estyn allan at bobl ifanc a chymunedau sydd wedi'u gwahardd yn lleol, ac ar draws Cymru, sydd fwyaf angen cymorth a chefnogaeth.

Two members of the Community Gateway project sitting at a table, laughing

Cofleidio ymgysylltiad cymunedol

Rydym yn defnyddio ein hystod eang o arbenigedd i gefnogi a chyflwyno prosiectau effeithiol a arweinir gan y gymuned ochr yn ochr â gwirfoddolwyr myfyrwyr a staff.

Menyw mewn côt labordy gwyn gyda logo Ymchwil Canser yn siarad â dwy fyfyrwraig sydd hefyd yn gwisgo cotiau labordy.

Meithrin sgiliau Cymru ar gyfer y dyfodol

A ninnau’n brifysgol fwyaf Cymru, byddwn yn croesawu ein rôl i gefnogi adferiad a arweinir gan sgiliau os bydd dirwasgiad ar ôl COVID-19.

Mae pum gwirfoddolwr yn eu festiau gwelededd uchel yn gwenu ar y camera gan sefyll wrth ymyl y bagiau mawr llawn sbwriel y maent wedi'i gasglu.

Arwain adferiad gwyrdd Cymru

Rydyn ni’n helpu i greu dyfodol cynaliadwy drwy ychwanegu at y ffyrdd y mae pobl yn cysylltu o’r newydd â byd natur a'n planed.

Welsh flag

Hyrwyddo'r Gymraeg a diwylliant Cymru

Rydym yn falch o fod yn brifysgol yng Nghymru ac rydym yn ymrwymedig i hyrwyddo a dathlu’r Gymraeg a diwylliant Cymru.