Prosiect Darganfod
Rhaglen ar gyfer pobl ifanc ag awtistiaeth sydd â diddordeb mewn mynd i'r brifysgol yn y dyfodol yw Darganfod. Mae’r rhaglen yn cynnal sesiynau bob wythnos i bobl ifanc ym Mlynyddoedd 9 i 11, a’r rhai ym Mlwyddyn 12 ymlaen.
Rydyn ni hefyd yn cynnal Ysgol Haf ar gyfer myfyrwyr dros 16 oed, sy’n rhoi cyfle iddyn nhw aros dros nos ar y campws a chael syniad go iawn o fywyd yn y brifysgol!
Dewch i wybod rhagor am Ysgol Haf Darganfod gan y rhai sydd wedi cymryd rhan ynddi:
Mae’r rhai sy’n cymryd rhan ym mhrosiect Darganfod yn mynd i sesiynau mentora rheolaidd sy’n dod â nhw at ei gilydd, naill ai ar y campws neu ar-lein. Yn ogystal â datblygu sgiliau allweddol i ffynnu yn y brifysgol, bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn:
- cwrdd â myfyrwyr prifysgol presennol
- cael cymorth a chyngor gan fyfyrwyr
- cael gwybod am fywyd yn y brifysgol
- cael cymorth gan y gymuned niwroamrywiol
Mae ceisiadau ar gyfer Prosiect Darganfod 2025 ar agor nawr!
Diwrnod ymweliad tawel
Mae'r diwrnod ymweliad tawel am ddisgyblion ym mlynyddoedd 12 a 13 sydd â diddordeb mewn ymgeisio i fynd i’r brifysgol, sydd yn niwrowahanol neu â chyflyrau iechyd meddwl, a allai gael eu llethu gan amgylchedd y Diwrnod Agored traddodiadol.
Bydd y diwrnod yn gynnwys:
- Cyflwyniadau ar ymgeisio i fynd i’r brifysgol a bywyd prifysgol
- Sesiynau holi ac ateb i roi cipolwg i chi ar fywyd prifysgol
- Teithiau o amgylch y campws
- Digwyddiad ail-lansio Prosiect Minecraft
Cefnogi myfyrwyr ag awtistiaeth yn ystod Diwrnodau Agored i Israddedigion
Yn ystod Diwrnodau Agored, bydd myfyrwyr ag awtistiaeth yn cael y cyfle i fynd i fan tawel er mwyn cynllunio eu diwrnod, lle bydd lluniaeth ac aelodau o’r staff ar gael i’w helpu.
Gallwn ni hefyd gynnig:
- Taleb ginio y mae modd ei gwario mewn caffi ar gampws y Brifysgol
- Llysgennad Myfyrwyr sy’n gallu mynd o gwmpas y campws gyda nhw neu fynd â nhw ar daith o gwmpas y campws
Bydd e-bost sy’n rhoi rhagor o fanylion yn cael ei anfon at fyfyrwyr sydd wedi cofrestru i ddod i Ddiwrnod Agored drwy lenwi’r brif ffurflen gofrestru ar gyfer Diwrnodau Agored.
Podlediad: Y Brifysgol, Awtistiaeth a Chi
Yn ein podlediad, Y Brifysgol, Awtistiaeth a Chi, mae staff allgymorth a myfyrwyr sydd yn y brifysgol ar hyn o bryd yn rhoi eu barn a’u cyngor i helpu myfyrwyr awtistig i baratoi ar gyfer bywyd prifysgol.
Cysylltu â ni
Mae croeso mawr ichi gysylltu â ni i gael rhagor o wybodaeth am y prosiect:
Tîm Ehangu Mynediad
Ymunwch â'n rhestr e-bostio am ddiweddariadau a gwybodaeth ddefnyddiol.