Iechyd Rhywiol
- Ar gael ar gais
- Hyd at 2 awr
Cyflwyniad rhyngweithiol ar-lein sy'n rhoi trosolwg o iechyd rhywiol.
Mae'r cyflwyniad yn canolbwyntio ar yr amcanion dysgu canlynol:
- deall y cylchred mislifol a sut mae'r system endocrinaidd yn ei reoleiddio
- gwerthfawrogi'r newidiadau a welir yn gorfforol ac yn seicolegol yn ystod cylchred mislifol
- adolygu mathau o heintiau a drosglwyddir yn rhywiol a'u heffeithiau
- archwilio mathau o ddulliau atal cenhedlu a'r manteision/anfanteision.
Ceir dogfen drosolwg hefyd a nodiadau canllaw ar gyfer athrawon.
Ynglŷn â'r trefnydd
Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â ni yn medicengagement@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
Nid oes angen cadw lle ymlaen llaw.
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim
Cynulleidfa
Mae angen goruchwyliaeth athrawon.