Blwyddyn Newydd Tsieineaidd 2023
- Ar gael ar gais
- Hyblyg
Sesiynau ar-lein gyda thiwtoriaid Tsieineaidd
Dathlwch Flwyddyn y Gwningen drwy wylio sesiynau tiwtoriaid Sefydliad Confucius Caerdydd a recordiwyd yn fyw yn ystod gŵyl y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd ar 20 Chwefror.
Blynyddoedd 1 a 2
Cyflwyniad i’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd
Addurniadau ar gyfer y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd
Bwyd ar gyfer gwyliau Tsieineaidd traddodiadol
Blynyddoedd 3 i 6
Arferion a thraddodiadau’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd
Blynyddoedd 7 i 12
Addurniadau ar gyfer y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd
I weld y rhestr chwarae lawn, ewch i’n tudalen YouTube.
Adnoddau ar y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd
Gall athrawon hefyd ddefnyddio’r adnoddau hyn ar y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd yn y dosbarth gyda'u disgyblion.
Gweithgaredd | Hyd | Deunyddiau | Grwpiau blwyddyn addas |
---|---|---|---|
Adrodd Stori: Myth Nian | 10-15 munud | PowerPoint | Blynyddoedd 1 a 2 |
Adrodd Stori: Ras anifeiliaid y Sidydd Tsieineaidd | 10-15 munud | Blynyddoedd 1 a 2 | |
Lliwio: Y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd | 20-30 munud | Blynyddoedd 1 a 2 | |
Crefft papur: Gwneud hetiau parti ar gyfer y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd | 20-30 munud | Blynyddoedd 1 a 2 | |
Torri papur: Gwneud cwningen | 20 munud | Blynyddoedd 3 i 6 | |
Crefft papur: Gwneud draig gadwyn | 20 munud | Crefft papur: Draig gadwyn | Blynyddoedd 3 i 6 |
Crefft papur: Gwneud llusernau papur a nodau tudalen | 20 munud | Blynyddoedd 3 i 6 | |
Torri papur: Cwningen a dyn eira | 20 munud | Blynyddoedd 7 i 12 | |
Crefft papur: Templed amlen arian goch | 10 munud | Blynyddoedd 7 i 12 | |
Lliwio ymwybyddiaeth ofalgar: Cwningen y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd | 20 munud | Blynyddoedd 7 i 12 | |
Croesair: Y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd | 10 munud | Croesair: Y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd | Blynyddoedd 7 i 12 |
I ddefnyddio unrhyw rai o'r adnoddau hyn, cysylltwch â Rheolwr Ysgolion Cymru Tsieina, Victoria Ucele, drwy ebostio ucelev@caerdydd.ac.uk.
Gweler ein hadnoddau Blwyddyn Newydd Tsieineaidd ar gyfer 2021 a 2022 ar y dudalen hwn.
Adnoddau British Council
Gallwch hefyd ddod o hyd i adnoddau British Council ar y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd yn 2023 ar ei wefan.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.
Ynglŷn â'r trefnydd
Sefydliad Confucius Caerdydd sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Victoria Ucele yn confucius@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
Gellir cynnal y gweithgareddau hyn gyda disgyblion ysgol naill ai mewn ystafell ddosbarth, gartref gyda'r teulu neu’n unigol.
Nid oes angen cadw lle ymlaen llaw.
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim