Cefndir a Hanfodion Cymorth Cyntaf
- Ar gael ar gais
- Hyd at 2 awr
Ymunwch â chyflwyniad rhyngweithiol ar-lein sy’n trafod sgiliau ymarferol cymorth cyntaf.
Yn y cyflwyniad, byddwch chi’n dysgu am y cefndir a'r sgiliau angenrheidiol i achub bywyd rhywun drwy gwmpasu pum prif adran:
- y tair prif organ
- pibellau gwaed
- nerfau
- gwaed
- cyd-destunau’r cleifion.
Mae cwis i'w gwblhau hefyd fel rhan o'r cyflwyniad.
Ynglŷn â'r trefnydd
Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â ni yn medicengagement@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
Nid oes angen cadw lle ymlaen llaw.
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim
Cynulleidfa
Mae angen goruchwyliaeth athrawon.