Diwrnodau Tsieina Gŵyl y Gwanwyn
- Ar gael ar gais
- 2-4 awr
Os yw eich ysgol neu goleg yng Nghaerdydd neu'r cyffiniau, gallwch wneud cais am Ddiwrnod Tsieina arbennig yn eich ysgol.
Ym mhob Diwrnod Tsieina, mae tiwtoriaid Sefydliad Confucius Caerdydd yn cyflwyno sesiynau pwrpasol i ddisgyblion. Yn y gorffennol, mae tiwtoriaid wedi cynnal gweithgareddau sy'n gysylltiedig â Gŵyl y Gwanwyn. Mae’r rhain wedi cynnwys creu addurniadau papur arbennig y Flwyddyn Newydd, dysgu am sut mae'n cael ei ddathlu mewn gwahanol rannau o'r wlad, a hyd yn oed plygu twmplenni Tsieineaidd!
Rhoddir blaenoriaeth i ysgolion yng Nghaerdydd neu'r cyffiniau, yn ogystal â'r rhai sydd heb gynnal Diwrnod Tsieina o'r blaen.
Bydd y digwyddiadau hyn yn dibynnu ar ba staff sydd ar gael.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.
Ynglŷn â'r trefnydd
Sefydliad Confucius Caerdydd sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Victoria Ucele yn confucius@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
Cyflwyno cais am Ddiwrnod Tsieina Gŵyl y Gwanwyn: https://rb.gy/gkskd3
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim
Rydym yn dod atoch chi
Rydym am ei gwneud yn hawdd i chi weithio gyda ni. Lle bynnag y bo modd, byddwn yn dod â'r gweithgaredd hwn i'ch ysgol neu'ch coleg.
Cynulleidfa
Mae angen goruchwyliaeth athrawon.