Cyrsiau byr am iaith a diwylliant Tsieineaidd i ysgolion uwchradd a cholegau
- Ar gael ar gais
- Hyblyg
Tiwtoriaid o Sefydliad Confucius Caerdydd sydd wedi creu’r cwrs yn benodol ar gyfer plant a phobl ifanc hŷn i ddysgu am Tsieina a’i phrif iaith. Bydd un neu ragor o'n tiwtoriaid yn ei addysgu naill ai wyneb yn wyneb neu ar-lein yn eich ysgol.
Mae'r chwe sesiwn yn hyblyg, a gellir eu cynnal yn wythnosol neu dros gyfnod penodol o amser fel pythefnos, dau fis neu hyd yn oed dros flwyddyn gyfan.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.
Ynglŷn â'r trefnydd
Sefydliad Confucius Caerdydd sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Victoria Ucele yn confucius@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
E-bostiwch Sefydliad Confucius Caerdydd gyda'r llinell pwnc CYRSIAU BYR AR GYFER YSGOLION UWCHRADD
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim
Rydym yn dod atoch chi
Rydym am ei gwneud yn hawdd i chi weithio gyda ni. Lle bynnag y bo modd, byddwn yn dod â'r gweithgaredd hwn i'ch ysgol neu'ch coleg.
Cynulleidfa
Mae angen goruchwyliaeth athrawon.