2025 Gŵyl y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd
-
Dydd Llun 27 Ionawr 2025, 09:00 - 15:00
I ddathlu'r adeg unigryw hon o'r flwyddyn, rydym yn gwahodd ysgolion, colegau, addysgwyr yn y cartref a grwpiau o blant sydd â diddordeb arbennig i ddysgu am y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd a Gŵyl y Gwanwyn.
Ar dydd Llun 27 Ionawr, byddwn yn cynnal Gŵyl Blwyddyn Newydd Tsieineaidd Ar-lein arall.
Ers ei sefydlu yn 2022, mae'r gwyliau hyn wedi bod yn hynod boblogaidd ymhlith ysgolion ac mae cannoedd o ddisgyblion ledled Cymru yn cymryd rhan. Yn y gorffennol, mae plant wedi mwynhau ystod o sesiynau byw ac wedi'u recordio gyda thiwtoriaid Sefydliad Confucius Caerdydd. Maent wedi dysgu am darddiad a thraddodiadau Gŵyl y Gwanwyn; gweithgareddau ymarferol fel gwneud llusernau a chaligraffeg; a dysgu ymadroddion yn Mandarin ar gyfer yr adeg arbennig hon o'r flwyddyn.
Yn 2025, byddwn yn cynnal sesiynau byw ar gyfer plant Cyfnod Allweddol 2 yn ystod y bore, ac ar gyfer plant Cyfnod Allweddol 1 yn y prynhawn. Bydd y rhain yn cynnwys cyflwyniad i'r ŵyl, dysgu am y Sidydd Tsieineaidd, adrodd straeon, gwneud addurniadau ar gyfer drysau a chlecars tân a mwy!
Os na allwch chi ymuno â sesiynau byw yr ŵyl, bydd recordiadau ohonynt ar gael i'w gwylio yn eich amser eich hun.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.
Ynglŷn â'r trefnydd
Sefydliad Confucius Caerdydd sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Victoria Ucele yn ucelev@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o fanylion.
Cynulleidfa
Mae angen goruchwyliaeth athrawon.