Llwybrau at y Gyfraith
- Ar gael ar gais
- Hyblyg
Mae'r rhaglen Llwybrau at y Gyfraith yn cael eu cynnal yma ym Mhrifysgol Caerdydd mewn partneriaeth â Sutton Trust, sef elusen sy’n cefnogi symudedd cymdeithasol.
Beth yw Llwybrau?
Mae pobl sy’n cymryd rhan yn y rhaglen Llwybrau yn cael y cyfle i:
- Gwblhau profiad gwaith gyda chwmni lleol neu genedlaethol
- Ymweld â'r campws a chymryd rhan mewn gweithdai academaidd unigryw gydag academyddion o Brifysgol Caerdydd
- Mynd i Gynhadledd Breswyl Genedlaethol yn ystod gwyliau’r ysgol
- Defnyddio Sutton Trust Online – adnodd gwych ar-lein sy’n agor y drws i weminarau a digwyddiadau unigryw!
- Cwrdd â myfyrwyr presennol y Brifysgol a chlywed y stori go iawn
- Cwrdd â phobl o’r un anian a gwneud ffrindiau
Beth yw’r manteision o gymryd rhan?
- Rhwydwaith o staff y Brifysgol, gweithwyr proffesiynol byd diwydiant a phobl sy’n debyg i chi
- Profiadau i sôn amdanyn nhw ar eich CV, mewn datganiadau personol ac mewn cyfweliadau
- Bydd unrhyw fyfyriwr sy’n cwblhau un o raglenni Llwybrau yn gymwys i gael cynnig cyd-destunol. Polisi derbyniadau cyd-destunol Prifysgol Caerdydd
- Gwybodaeth ac arweiniad ar wneud cais i’r Brifysgol a mynd i astudio yno
- Meithrin sgiliau
- Does dim cost i gymryd rhan yn y rhaglen.
Mae’n rhaid i fyfyrwyr fod ym mlwyddyn 12, yn mynd i ysgol wladol (a bob amser wedi mynd yno) ac yn byw o fewn taith gymudo 90 munud i Brifysgol Caerdydd.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.
Ynglŷn â'r trefnydd
Ehangu Cyfranogiad sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â ni yn outreach@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
Archebwch drwy wefan The Sutton Trust.
Cadwch eich lle nawr
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim