Darganfod Economeg
- Ar gael ar gais
- Hyd at 2 awr
- Ar gael yn Gymraeg
Mae ein gweithdai Darganfod Economeg yn rhoi cipolwg ar astudio economeg ac yn cyflwyno'ch myfyrwyr i'r amrywiaeth o yrfaoedd a phrentisiaethau yn y maes.
Mae economeg yn bwnc cyffrous, ond ychydig iawn o bobl sy’n gwybod beth yw economeg mewn gwirionedd. Mae ein gweithdai wedi'u cynllunio i roi cipolwg i'ch myfyrwyr ar astudio economeg ar lefel Safon Uwch neu lefel gradd. Bydd y myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i wahanol yrfaoedd a phrentisiaethau a gall helpu i gyflawni Meincnodau Gatsby. Mae modd cysylltu’r gweithdai hefyd â’r cwricwlwm Mathemateg, Astudiaethau Busnes neu Ddaearyddiaeth.
Bydd ein gweithdai yn rhoi cyflwyniad i economeg i’ch myfyrwyr ac yn trin a thrafod meysydd fel:
- anghyfartaledd
- twf economaidd
- prynu mewn panig
- addysg
- argyfwng costau byw
- y bwlch cyflog rhwng y rhywiau
Sesiwn un-tro yw’r gweithdy ac un o’n myfyrwyr economeg presennol fydd yn cyflwyno. Maent wedi'u cynllunio i'w cyflwyno mewn dosbarthiadau rheolaidd y gellir eu haddasu i gyd-fynd ag amserlen eich ysgol. Gellir hefyd eu cyflwyno sawl gwaith i sawl dosbarth mewn blwyddyn.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.
Ynglŷn â'r trefnydd
Cardiff Business School sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Tommaso Reggiani yn reggianit@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
I gofrestru eich diddordeb a thrafod ymhellach, cysylltwch â Dr. Tommaso Reggiani.
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim
Rydym yn dod atoch chi
Rydym am ei gwneud yn hawdd i chi weithio gyda ni. Lle bynnag y bo modd, byddwn yn dod â'r gweithgaredd hwn i'ch ysgol neu'ch coleg.