Archfygiau - adnodd addysgol i gynyddu ymwybyddiaeth o'r byd microbaidd sydd ynon ni, arnon ni ac o'n hamgylch ni
- Ar gael ar gais
- Hyblyg
- Ar gael yn Gymraeg
Mae 'Archfygiau' yn adnodd ar-lein a ddatblygwyd yn offeryn addysgol ar gyfer plant ysgol cyfnod allweddol 2/3 yng Nghymru sy’n cyflwyno cysyniadau ynghylch microbioleg, heintiau ac ymwrthedd gwrthficrobaidd.
Cafodd y wefan hon ei chynhyrchu ar y cyd ag athrawon a disgyblion o ysgolion cynradd ac uwchradd o bob cwr o Gymru (gan gynnwys adborth gan fwy na 250 o blant a brofodd fersiynau rhagarweiniol o'r wefan) ac mae'n cyd-fynd â Chwricwlwm newydd Cymru. Cafodd ei lansio ym mis Hydref 2021 ac mae ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Mae gwefan Archfygiau yn cynnwys ystod eang o weithgareddau a gwybodaeth, gan ddechrau gyda chyflwyniad sylfaenol i fywyd, esblygiad a bacteria, gan symud ymlaen wedyn i gysyniad heintiau, bacteria ardyfol, microbau yn yr amgylchedd, yn ogystal â chlefydau, gwrthfiotigau ac ymwrthedd i wrthfiotigau. Cyflwynir y pynciau hyn drwy ddulliau gwahanol ar ffurf testunau rhagarweiniol, delweddau, animeiddio, fideos, straeon â darluniau, amserlenni rhyngweithiol, gemau, cwisiau, taflenni lliwio a phrotocolau ar gyfer arbrofion cartref. Er mwyn mesur effaith ein hadnodd ar eu profiad dysgu, gall disgyblion, athrawon ac aelodau o'r cyhoedd roi adborth ar ffurf holiaduron manwl, gan gyflwyno eu lluniau, eu gwaith celf, eu testunau a’u sgrinluniau sy'n gysylltiedig ag Archfygiau.
Hefyd ar y wefan mae adran ar 'Bod yn Wyddonydd' lle gall ymwelwyr ddeall y mathau o swyddi y mae pobl sy'n gweithio ym maes gwyddoniaeth yn eu gwneud go iawn (ymchwilydd labordy, meddyg, gwyddonydd data, athro, newyddiadurwr gwyddoniaeth ac ati), a'r hyn a ysbrydolodd y bobl hyn i ddewis gyrfa ym maes gwyddoniaeth yn y lle cyntaf. Ar gyfer digwyddiadau penodol, bydd sianel fyw yn cyd-fynd â’r wefan lle gall defnyddwyr gwrdd â gwyddonwyr ar gyfer arbrofion byw, teithiau o amgylch y labordy a sesiynau holi ac ateb, a chymryd rhan yn y gwaith allgymorth wyneb yn wyneb mewn ysgolion y bydd ein tîm a llysgenhadon STEM ac athrawon cysylltiedig yn ei wneud o ran gweithgareddau Archfygiau.
Cyflwynir yr holl ddeunyddiau ar y wefan heb gyfarwyddiadau, gan mai'r nod yw bod hyblygrwydd i addasu'r deunyddiau i anghenion unigol yr athrawon (a'u gwersi) a’r disgyblion fel ei gilydd. Cawson ni ein hysbrydoli i ddatblygu’r wefan hon yn sgîl rhoi 'Archfygiau’ ar waith yn llwyddiannus: Siop Wyddoniaeth Dros Dro yng Nghanolfan Dewi Sant Caerdydd (gyda tua 100,000 o ymwelwyr bob dydd yn un o ganolfannau siopa prysuraf y DU), gan ddenu mwy na 6,600 o ymwelwyr dros gyfnod o bythefnos yn ystod gwyliau haf 2019.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.
Ynglŷn â'r trefnydd
Yr Ysgol Meddygaeth sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â ni yn superbugs@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
Nid oes angen cadw lle ymlaen llaw. Mae croeso mawr ichi gysylltu drwy ebost os bydd cwestiynau gennych chi.
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim