Gweithgareddau Gŵyl Cychod y Ddraig 端午
- Ar gael ar gais
- Hyblyg
Gŵyl Cychod y Ddraig
Gŵyl draddodiadol bwysig yn Tsieina ac mewn llawer o wledydd Asiaidd eraill yw Gŵyl Cychod y Ddraig, 'Duanwu' neu 端午.
Dathliad yw’r ŵyl mewn gwirionedd o fywyd Qu Yuan, y bardd hynafol o Tsieina a foddodd, yn ôl y chwedl, mewn afon yn ystod cyfnod y 'Taleithiau Rhyfelgar' (rhwng tua 475 a 221 cyn y cyfnod cyffredin). Yn ôl y sôn, ar ôl i bobl leol ddarganfod beth oedd wedi digwydd, gwnaethant rasio’u cychod yn wyllt i chwilio amdano, gan ollwng swmpiau o reis i'r afon fel na fyddai pysgod yn gwledda ar ei gorff.
Dyma pam mae cymaint o rasys cychod yn cael eu cynnal yn ystod yr yr adeg hon, a pham mae teuluoedd yn gwneud ac yn bwyta 'zongzi' – math o dwmplen reis gludiog wedi'i lapio mewn dail bambŵ.
Gan y dywedir i Qu Yuan foddi ar bumed diwrnod pumed mis y calendr lleuad, cynhelir yr ŵyl bob blwyddyn ar y diwrnod hwn. Fodd bynnag, mae'r dyddiad yn newid i'r rhai ohonon ni sy'n defnyddio calendrau eraill. Felly, yn 2022, bydd yr ŵyl yn digwydd ar 3 Mehefin.
Gweithgareddau i ysgolion
Adnoddau ar-lein
Sicrhewch fynediad at adnoddau Sefydliad Confucius Caerdydd i chi eu defnyddio'n annibynnol gyda disgyblion yn y dosbarth - Ebostiwch ucelev@caerdydd.ac.uk.
Adnoddau eraill
Fideos o Diwrnod Gweithgareddau Gŵyl Cychod y Ddraig
Ar 27 Mai 2022, fe wnaeth disgyblion fwynhau sesiynau rhyngweithiol byw ar-lein gyda thiwtoriaid Sefydliad Confucius Caerdydd yn ein Diwrnod Gweithgareddau Gŵyl Cychod y Ddraig.
Mewn sesiynau arbennig, dysgodd y plant am darddiad y digwyddiad; dysgu geiriau Mandarin ac ymadroddion sy'n gysylltiedig â'r ŵyl; dysgu beth mae pobl Tsieineaidd yn ei fwyta; a gwneud papur 'zongzi'!
Fideos o'r sesiynau:
I weld yr holl fideos ewch i'n rhestr chwarae YouTube Gŵyl Cychod y Ddraig 2022.
Adnoddau pellach
- Dewch i wybod rhagor am arferion Gŵyl Cychod y Ddraig drwy wylio’r fideo hwn sy'n cynnwys:
- cyflwyniad i'r hyn y mae pobl ar dir mawr Tsieina yn ei wneud yn ystod yr amser hwn
- y stori go iawn y tu ôl i'r ŵyl hon
- y gêm 'wyau ar eu sefyll am hanner dydd'
- Dysgwch sut i wneud zongzi, sef twmplenni reis traddodiadol.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.
Ynglŷn â'r trefnydd
Cardiff Confucius Institute sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Victoria Ucele yn confucius@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
These online Dragon Boat Festival activities can be used by school pupils either in class, with their families or by themselves.
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim
Cynulleidfa
Mae angen goruchwyliaeth athrawon.