Ewch i’r prif gynnwys

Adnoddau iaith a diwylliant Tsieinëeg Mandarin ar-lein


  • CalendarAr gael ar gais
  • Clock outlineHyblyg

This is students in the Shaolin Temple in China practising Kung Fu. Image by Manfred Bieser from Pixabay

Mae'r adnoddau hyn wedi'u dwyn ynghyd i gefnogi pedwerydd diben Pedwar Diben Cwricwlwm Newydd Cymru.

Mae'n ymwneud â phlant fel 'unigolion iach a hyderus sy'n barod i fyw bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas' ac mae'n canolbwyntio'n benodol ar iechyd a lles Tsieineaidd. Gall athrawon ysgol gynradd ac uwchradd ddefnyddio'r adnoddau yn eu hystafelloedd dosbarth, neu gan unigolion gartref.

Iechyd a lles Tsieineaidd

Ymarferion llygaid

Mae ysgolion Tsieineaidd wedi bod yn defnyddio ymarferion llygaid er mwyn helpu i amddiffyn golwg ac atal myopia ers yr 1960au. Mae'r plant yn perfformio'r ymarferion pum munud yn y dosbarth ochr yn ochr â cherddoriaeth unwaith neu ddwywaith y dydd.

Maen nhw'n seiliedig ar theori Meddygaeth Draddodiadol o Tsieina sydd yn ôl y sôn yn ysgogi'r llif o egni neu 'qi', gan leihau'r straen ar y llygaid a chynorthwyo eu swyddogaeth.

O ran meddygaeth Orllewinol, mae'r ymarferion yn cynyddu cylchrediad y gwaed ac yn ymlacio cyhyrau o amgylch y llygaid, gan helpu i leihau blinder yn yr ardal hon.

Adnoddau

Mae plant yn dysgu sut i wneud tri ymarfer llygaid gan ddefnyddio'r fideo YouTube hwn o 'Frenin Meddygaeth' Tsieina, Sun Simiao.

Cân a dawns

Addysgwch eich disgyblion i ganu a dawnsio fel plant yn Tsieina gyda'r gân a'r ddawns hon. Unwaith y byddant wedi dysgu'r gân a'r ddawns, gallant ymarfer gyda'i gilydd yn ystod amser egwyl a pherfformio mewn sioe dalent hyd yn oed!

Adnoddau

  • Bydd y plant yn dysgu'r gân, 'When Smiling You Are Really Nice' drwy wylio fideo ar YouTube sy'n cynnwys symbolau Tsieineaidd, Pinyin, geiriau Saesneg ac ystumiau llaw.
  • Mae disgyblion yn ymarfer y ddawns sy'n cyd-fynd â'r gân gan ddefnyddio'r fideo arddangos manwl hwn sy'n mynd trwy bob cam, neu'r fideo hwn, sy'n cychwyn yn arafach cyn symud ymlaen i gyflymder arferol. Mae'r ddau fideo ar YouTube.

Yin ac Yang bwyd Tsieineaidd

Deuoliaeth Yin ac Yang yw un o egwyddorion allweddol meddylfryd Tsieineaidd. Mae'r egwyddor hon, sy'n deillio o athroniaeth Taoaidd, wedi'i hymgorffori mewn llawer o egwyddorion diwylliant Tsieineaidd, felly beth yw ei hystyr o ran bwyd Tsieineaidd?

Pan fyddwn yn siarad am Yin ac Yang rydym yn ei olygu mewn termau perthynol, a chredir bod gan bopeth agweddau yin ac yang. Felly, sut mae pobl o Tsieina yn rhannu bwyd yn ddau gategori? Sut caiff athroniaeth Yin ac Yang ei chymhwyso i bryd Tsieineaidd dilys, o ran cydbwysedd y blasau, cynhwysion a thechnegau coginio? Pam ei bod mor bwysig cynnal cydbwysedd o Yin ac Yang yn y diet?

Adnoddau

Tai chi - Crefft ymladd Tsieineaidd

Mae Tai chi (neu Tàijí quán yn Tsieinëeg), a elwir hefyd yn "Shadowboxing", yn grefft ymladd Tsieineaidd fewnol sy'n cael ei hymarfer ar gyfer hyfforddiant amddiffyn, buddion iechyd a myfyrdod.

Mae'r term taiji yn gysyniad cosmolegol Tsieineaidd ar gyfer fflwcs yin ac yang, ac mae 'quan' yn golygu dwrn.

Adnoddau

Dysgwch fwy am adnoddau, dosbarthiadau a digwyddiadau arbennig i blant. Ewch i Tsieinëeg mewn Ysgolion a chofrestru i dderbyn eu cylchlythyr.


Ynglŷn â'r trefnydd

Sefydliad Confucius Caerdydd sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Victoria Ucele yn ucelev@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o fanylion.

Sut i gadw lle

Cynlluniwyd yr adnoddau ar-lein ar gyfer athrawon ysgolion cynradd, canol ac uwchradd i'w defnyddio gyda'i disgyblion yn y dosbarth. Gall plant eu defnyddio'n annibynnol hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu gydag eraill.


TicketMae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim

Cynulleidfa

  • TickAthrawon
  • TickTeuluoedd
  • TickSylfaen - 3-7 oed, blwyddyn sylfaen 2
  • TickCyfnod allweddol dau - 7-11 oed, blynyddoedd 3-6
  • TickCyfnod allweddol tri - 11-14 oed, blynyddoedd 7-9
  • TickCyfnod allweddol pedwar - 14-16 oed, blynyddoedd 10-11
  • TickCyfnod allweddol pump - 16-18 oed, blynyddoedd 12-13

Mae angen goruchwyliaeth athrawon.


Themâu cwricwlwm

  • TickIechyd a lles
  • TickY Dyniaethau
  • TickIeithoedd, llythrennedd a chyfathrebu
  • TickAllgyrsiol

Math o weithgaredd

  • TickGweithgaredd
  • TickDigwyddiad
  • TickAdnodd ar-lein

Diben

  • TickCefnogi themâu cwricwlwm

Rhannwch y digwyddiad hwn


Partneriaid

  • Bangor University
  • Hanban
  • University of Wales Trinity Saint David