Byd Microbau (gweithgaredd rhithwir)
- Ar gael ar gais
- Hyd at 2 awr
Cyflwyniad i fyd microbau.
Bydd gwyddonydd o Brifysgol Caerdydd yn ein cyflwyno i fyd y microbau o'n cwmpas drwy arddangos swabiau plât agar o ddwylo ac arwynebau, gan dynnu sylw at pa mor bwysig yw golchi dwylo. Byddant hefyd yn defnyddio tabledi datgelu plac i helpu i drafod y microbau yn ein cegau.
Cymerwch ran ac ymunwch mewn cystadleuaeth i ddylunio'ch 'Pryf Arbennig!' eich hun. Bydd yr enillydd yn derbyn tystysgrif.
Ynglŷn â'r trefnydd
Athrofa Peirianneg a Thrwsio Meinweoedd Caerdydd (CITER) sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Siân Morgan yn citer@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
Gallwch ofyn am y gweithgaredd hwn trwy gysylltu â thîm ymgysylltu Athrofa Peirianneg a Thrwsio Meinweoedd Caerdydd (CITER).
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim
Cynulleidfa
Mae angen goruchwyliaeth athrawon.