Blwyddyn Newydd Tsieineaidd 2021 a 2022
- Ar gael ar gais
- Hyblyg
Yn 2022, mwynhaodd disgyblion ddiwrnod o sesiynau rhyngweithiol byw ar-lein a sesiynau wedi’u recordio i ddathlu’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd.
Nawr, hoffem gynnig yr adnoddau hyn i athrawon i’w defnyddio yn y dosbarth neu unigolion i’w defnyddio gartref. Dewch o hyd i'r fideos ar ein rhestr chwarae Blwyddyn Newydd Tsieineaidd 2022.
Gallwch hefyd edrych ar ein hadnoddau ar gyfer y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd yn 2021, y gellir defnyddio llawer ohonynt eleni.
- Dewch i ddysgu am darddiad Y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd a’r chwedl sy’n gysylltiedig â hi trwy ddysgu sut i wneud Ych gan ddefnyddio'r grefft draddodiadol o blygu papur. Defnyddiwch eich gwybodaeth newydd i gwblhau croesair difyr (lawrlwytho PDF).
- Gwyliwch fideo i ddarganfod mwy am y bwyd Tsieineaidd sy'n arbennig i'r adeg hon o'r flwyddyn, a gweithgareddau fel cynnau tân gwyllt a chracers tân sy’n cyd-fynd â’r dathlu. Dysgwch sut i ddweud rhai o eiriau ac ymadroddion yr ŵyl mewn Mandarin (fideo YouTube).
- Gwrandewch ar chwedl 'Ma Liang a’r Brws Paent Hudolus' yn y fideo hwn. Yna dysgwch sut i'w ddweud wrth eraill yn Mandarin trwy ddilyn camau yn fideo 1, fideo 2, fideo 3, fideo 4 a fideo 5, a defnyddio'r daflen weithgaredd y weithgaredd a sleidiau PowerPoint (addas i fyfyrwyr sy’n newydd i’r iaith).
- Dilynwch y cyfarwyddiadau yn y fideo hwn a meistrolwch y grefft hynafol o dorri papur. Lawrlwythwch y patrwm ychwanegol hwn i wneud plu eira.
- Gwyliwch a dysgu sut i wneud llusernau Tsieineaidd - mae'n cynnwys cyfarwyddiadau, calendr 3D a thempled, a sampl:
- Dysgwch am y deuddeg anifail ar y Sidydd Tsieineaidd o fideo neu gyflwyniad PowerPoint - mae'n cynnwys olwyn Sidydd (lawrlwythiad PDF) a phoster (lawrlwythiad PDF).
- Canu gyda'r fideo am gân Blwyddyn Newydd Dda, defnyddiwch y daflen eiriau (lawrlwythiad PDF).
- Gallwch hefyd lawrlwytho ein hawgrymiadau ar gyfer adnoddau fideo Blwyddyn Newydd ychwanegol ar-lein, gan gynnwys bwydydd Blwyddyn Newydd 'Lleuad Lwcus', Dawns y Llew ac addurniadau DIY.
Gellir dod o hyd i'r holl fideos gyda'i gilydd yn ein rhestr chwarae Sefydliad Confucius ar YouTube.
Rhagor o wybodaeth am gyfleoedd eraill gyda’n prosiect Ysgolion Cymru Tsieina.
Gweler ein hadnoddau ar gyfer Blwyddyn Newydd Tseiniaidd 2023 ar y dudalen hwn.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.
Ynglŷn â'r trefnydd
Sefydliad Confucius Caerdydd sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Victoria Ucele yn confucius@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
Gellir cynnal y gweithgareddau hyn gyda disgyblion ysgol naill ai mewn ystafell ddosbarth, gartref gyda'r teulu neu’n unigol.
Nid oes angen cadw lle ymlaen llaw.
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim