RIME: Cystadleuaeth farddoniaeth Research Inspires ME
- Ar gael ar gais
- Hyd at 2 awr
- Ar gael yn Gymraeg
Lluniwyd y pecyn addysg rhad ac am ddim ar gyfer athrawon Saesneg, Cymraeg, gwyddoniaeth a PSE.
Mae’r adnodd yn cyfuno addysgu am ymchwil canser â barddoniaeth a llythrennedd digidol. Mae'r pecyn wedi'i anelu at gyfnod allweddol tri (11-14 oed) ac mae'n cyd-fynd â'r cwricwlwm cenedlaethol.
Efallai y bydd yr adnodd hefyd o ddiddordeb i grwpiau ieuenctid a’r rhai sy’n addysgu eu plant gartref.
Cofrestrwch ar ein gwefan er mwyn cael copi o'r pecyn addysg trwy ebost.
Mae'r prosiect hwn yn cyflwyno tri gweithgaredd allweddol:
Cwis canser
Gan godi ymwybyddiaeth o ganser, mae'r cwis hwn yn gofyn i blant ystyried a thrafod agweddau a chredoau personol a theimlo'n gyffyrddus ac yn hyderus ynghylch cyfrannu a chyfleu syniadau. Darperir gwybodaeth ffeithiol am ganser drwy’r atebion ac mae’n helpu plant i ddeall y risgiau a berir gan uwch-fioled, ysmygu a dietau gwael.
Y gwir mewn byd sy'n llawn gwybodaeth anghywir
Mae'n hanfodol ein bod i gyd yn gallu asesu dilysrwydd honiadau y byddwn yn eu gweld ar-lein neu yn y cyfryngau. Mae'r gweithgaredd hwn yn archwilio technegau i ddadansoddi'r wybodaeth a welwn mewn blogiau, ar gyfryngau cymdeithasol ac yn y wasg.
Gweithgaredd a chystadleuaeth farddoniaeth
Gofynnir i blant ddychmygu eu bod yn ymchwilydd canser a llunio cerdd. Rydym wedi datblygu dwy gerdd ffilm gydag Ifor ap Glyn (Bardd Cenedlaethol Cymru) ac Owen Sheers i helpu i ysbrydoli. Bydd yr enillwyr yn derbyn tocynnau llyfr gwerth £150 ar gyfer eu hysgolion a bydd eu cerddi’n cael eu harddangos yn gyhoeddus mewn cyfleuster ymchwil i ysbrydoli gwyddonwyr a chleifion.
Rhagor o wybodaeth am y gystadleuaeth farddoniaeth sy'n cau ar 30 Ebrill 2021.
Mae'r holl adnoddau ar gael i'w lawrlwytho yn rhad ac am ddim o Wefan Canolfan Ymchwil Canser Cymru.
Ynglŷn â'r trefnydd
Canolfan Ymchwil Canser Cymru sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Jodie Bond yn RIMEproject@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
Ewch i wefan Canolfan Ymchwil Canser Cymru i gofrestru ar gyfer eich copi rhad ac am ddim o'r pecyn addysg a chanllaw addysgu.
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim
Cynulleidfa
Mae angen goruchwyliaeth athrawon.