Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd ar-lein (recordiad o ddigwyddiad byw ar 8 Gorffennaf 2020)
- Ar gael ar gais
- Hyd at 2 awr
Cynhaliodd y tîm Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd yn yr Ysgol Meddygaeth sesiwn fyw ryngweithiol ar-lein i ddisgyblion blwyddyn 12, lle cafwyd tua 600 o gyfranogwyr.
Cafodd y digwyddiad ei recordio, ac mae bellach ar gael i’w wylio ar-lein.
Mae'r fideo'n rhoi cyfle i chi:
- gwrdd ag ystod o ymchwilwyr, gan gynnwys gwyddonwyr sy'n gweithio ar brosiectau ymchwil ynglŷn â'r coronafeirws (COVID-19)
- cael atebion gan banel arbenigol o fyfyrwyr israddedig meddygaeth, myfyrwyr PhD, ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa, staff Derbyn)
- Dewch i weld tu mewn labordy ac arbrawf ar waith.
Byddwch hefyd yn dysgu am y ffyrdd gwahanol y gallwch roi gwyddoniaeth ar waith, clywed gan ein hymchwilwyr sy'n gweithio ar feysydd ymchwil iechyd amrywiol, a chael gwybodaeth fydd yn eich helpu i lenwi'ch ceisiadau UCAS.
Gwyliwch ein digwyddiad byw Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.
Ynglŷn â'r trefnydd
Yr Ysgol Meddygaeth sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â ni yn medicengagement@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
Nid oes angen cadw lle ymlaen llaw.
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim