Computer science family fun
- Ar gael ar gais
- Hyblyg
- Ar gael yn Gymraeg
Pwrpas ein gweithgareddau yw gwneud dysgu am gyfrifadureg yn hwyl, yn apelagr ac yn rhyngweithiol.
Gall yr adnoddau gael eu defnyddio gartref ac yn yr ysgol. Maent yn cwmpasu nifer o bynciau cyfrifiadureg ac nid oes angen cyfrifiadur i’w cwblhau!
Ar y dudalen yma byddwch yn darganfod 14 o weithgareddau gwanhanol:
- Haniaeth: Braslun cyflym (CS a CA2)
- Dadelfeniad: Sialens Dawns (CA2 a CA3)
- Haniaeth a dadelfeniad: Gêm dyfalwch pwy (CA2 a CA3)
- Algorithmau: Helfa ŵy ac iâr (CA2)
- Algorithmau: Cymeriadau dwl (CA2)
- Sialens Prawfswm Côd Bar (CA2 a CA3)
- Helfa wyau deuaidd (CS a CA2)
- Y System Deuaidd: Breichledau (CS a CA2)
- Y System Deuaidd: Tagiau enw (CS a CA2)
- Cryptograffeg: Sialens enw ffug (CA2 a CA3)
- Cryptograffeg: Sialens Cîst Drysor (CA2 a CA3)
- Sialens celf picseli (CS a CA2)
- Pixel hex art challenge (key stage two)
- Datganiadau amodol: Gêm bwrdd robotiaid (CA2).
Mae'r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg ym Mhrifysgol Caerdydd yn hwb Technocamps. Mae'r adnoddau hyn wedi'u creu mewn partneriaeth â Technocamps. Cenhadaeth Technocamps yw ysbrydoli, cymell ac ennyn diddordeb pobl mewn meddwl gyfrifiannol a hyrwyddo Cyfrifiadureg fel sail i bob agwedd ar gymdeithas fodern. Gallwch ddod o hyd i ragor o weithgareddau ar eu gwefan.
Haniaeth: Braslun cyflym
Mae’r weithgaredd yma yn ein helpu i ddeall y cysyniad o haniaeth. Haniaeth yw’r broses o ddiddymu unrhyw fanylion dianghenraid a ffocysu ar y trosolwg neu’r elfennau allweddol. Mae haniaeth yn rhan bwysig o gyrifiadureg, gan ei fod yn golygu bod angen llai o gôf ar y cyfrifiadur ac mae’n gwneud prosesau yn gyflymach, sydd yn ei wneud yn fwy effeithlon.
Mae’r weithgaredd yma ar gyfer:
- cyfnod sylfaen
- cyfnod allweddol dau
Lawrlwythwch y pecyn bralsun cyflym, PDF
Dadelfeniad: Sialens Dawns
Yn y gweithgaredd dawns corfforol yma, bydd y cysyniad o ddadelfeniad yn cael ei gyflwyno. Dyma’r broses o dorri problmeau mawr, cymleth i mewn i ddarnau llai, sydd yn fwy hylaw. Mae hyn yn bwysig i gyfrifiaduron, gan ei fod yn gadael i ymennydd y cyfrifidadur (CPU) weithio’n well.
Mae’r weithgaredd yma ar gyfer:
- cyfnod allweddol 2
- cyfnod allweddol 3
Lawrlwythwch y pecyn dadelfeniad sialens dawns, PDF
Haniaeth a dadelfeniad: Gêm dyfalwch pwy
Mae’r weithgaredd Dyfalwch Pwy yn adeiladu ar y cysyniadau o haniaeth (braslun cyflym) a dadelfeniad (sialens dawns). Mae angen haniaeth a dadelfeniad ar gyfrifiaduron er mwyn iddynt allu gweithio yn effeithlon.
Mae’r weithgaredd yma ar gyfer:
- cyfnod allweddol 2
- cyfnod allweddol 3
Lawrlwythwch y pecyn haniaeth a dadelfeniad, gêm dyfalwch pwy, PDF
Algorithmau: Helfa ŵy ac iâr
Mae cyfrifiaduron angen algorithmau i weithio. Mae’r gêm yma yn gadael i ni ymarfer defnyddio algorithmau mewn ffordd sydd yn gadael i ni weld sut mae cyfarwyddiadau yn gweithio. Mae’r weithgaredd hefyd yn ein cyflwyno i’r cysyniad o ddadfygio. Mae dadfygio yn cael ei ddefnyddio i gywiro camgymeriadau a gwella rhaglenni cyfridiadur.
Mae’r weithgaredd yma ar gyfer:
- cyfnod allweddol 2
Lawrlwythwch y pecyn helfa ŵy ac iâr, PDF
Algorithmau: Cymeriadau dwl
Mae’r weithgaredd yma yn ein helpu i ddeall alogrithamu a pam maent yn bwysig. Cyfres o gyfarwyddiadau yw algorithmau, sydd yn cael eu defnyddio i gwblhau tasg – er mwyn i gyfrifiadur allu deal a gweithio yn iawn, mae angen i’r cyfarwyddiadau fod yn fanwl ac yn glir. Mae cyfrifiaduron yn caru algorithmau!
Mae’r weithgaredd yma ar gyfer:
- cyfnod allweddol 2
Lawrlwythwch y pecyn cymeriadau dwl, PDF
Sialens Prawfswm Côd Bar
Mae codau bar ymhobman o’n cwmpas ar yr eitemau rydym yn prynnu o’r siopau. Mae’r codau bar yn helpu trefnu ac indecsu gwybodaeth am, neu brisiau, eitemau gwahanol. Mae’r weithgaredd yma yn gadael i ni archwilio byd codau bar ac yn ein helpu i ddeall beth mae’r digidau yn eu golygu.
Mae’r weithgaredd yma ar gyfer:
- cyfnod allweddol 2
- cyfnod allweddol 3
Lawrlwythiadau:
Binary egg hunt challenge
Mae’r weithgaredd yma yn ein helpu i ddeall y system deuaidd a pam mae’n bwysig. Mae cyfrifiaduron yn gweithio yn y system deuaidd, sydd yn defnyddio’r digidau 1 a 0. Mae cyfrifiaduron yn storio data trwy ddefnyddio’r digidau 1 a 0. Mae hyn yn helpu cyfrifiadur i ddeall gwybodaeth a cyfarwyddiadau.
Mae’r weithgaredd yma ar gyfer:
- cyfnod sylfaen
- cyfnod allweddol 2
Lawrlwythwch y pecyn sialens helfa ŵy deuaidd, PDF
Y System Deuaidd: Breichledau
Mae’r weithgaredd yma yn cyflwyno’r system deuaidd i blant. Er mwyn creu breichled deuaidd, bydd y plant yn defnyddio y ddau ddigid deuaidd, sef 1 a 0, a byddent yn dechrau deall pam mae’r system deuaidd yn bwysig i gyfrifiaduron.
Mae’r weithgaredd ar gyfer:
- cyfnod sylfaen
- cyfnod allweddol 2
Lawrlwythwch y pecyn breichledau system deuaidd, PDF
Y System Deuaidd: Tagiau enw
Dyma weithgaredd arall sydd yn cyflwyno’r system deuaidd i blant. Er mwyn creu tagiau enw, bydd y plant yn defnyddio y ddau ddigid deuaidd, sef 1 a 0. Trwy’r weithgaredd yma bydd plant yn dechrau dod i ddeall pam mae’r system deuaidd yn bwysig i gyfrifiaduron.
Mae’r weithgaredd yma ar gyfer:
- cyfnod sylfaen
- cyfnod allweddol 2
Lawrlwythwch y pecyn tagiau enw system deuaidd, PDF
Cryptograffeg: Sialens enw ffug
Yn y weithgaredd yma byddwn yn archwilio byd negeseuon dirgel. Cryptograffeg yw’r ffordd o ysgrifennu negeseuon gan ddefnyddio codau, ac yna gweithio allan beth mae’r neges yn ei ddweud gan ddefnyddio côd. Amgryptiad yw’r ffordd o greu neges dirgel. Dadgryptio yw’r ffordd o weithio allan a darllen y neges.
Mae’r weithgaredd yma ar gyfer:
- cyfnod allweddol 2
- cyfnod allweddol 3
Lawrlwythwych y pecyn sialens enw ffug, PDF
Cryptograffeg: Sialens Cîst Drysor
Yn y weithgaredd yma, byddwn yn archwilio byd negeseuon dirgel trwy greu cîst drysor sydd wedi cloi. Cryptograffeg yw’r ffordd o ysgrifennu negeseuon gan ddefnyddio codau, ac yna gweithio allan beth mae’r neges yn dweud gan ddefnyddio côd.
Mae’r weithgaredd yma ar gyfer:
- cyfnod allweddol 2
- cyfnod allweddol 3
Lawrlwythwch y pecyn sialens cîst drysor, PDF
Sialens celf picseli
Mae’r weithgaredd lliwio yma yn dangos sut mae picseli yn cael eu defnyddio i greu delweddau. Gallwch ddod o hyd i bicseli o’ch cwmpas yn y cartref ar sgrîn deledu, sgrîn cyfrifiadur, ffonau clyfar a camerau! Picsel yw’r elfen lleiaf mewn delwedd. Mae sgrîn cyfrifiadur yn arddangos miloedd o bicseli, ac maent yn cael eu rhoi at eu gilydd i greu delwedd. Maent yn cynnwys tri prif liw: coch, gwyrdd a glas.
Mae’r weithgaredd yma ar gyfer:
- cyfnod sylfaen
- cyfnod allweddol 2
Lawrlwythwch y pecyn sialens celf picseli, PDF
Sialens celf picseli hecs
Bydd y sialens yma yn cyflwyno gwerthoedd hecsadegol. Mae rhain yn bwysig oherwydd mae gwerthoedd hecs yn cael eu defnyddio i ddiffinio lliwiau, gan gynnwys tywyll a golau. Mae pob lliw yn gymysgedd o goch, gwyrdd a glas.
Mae’r weithgaredd yma ar gyfer:
- cyfnod allweddol 2
Lawrlwythwch y sialens clef picseli hecs, PDF
Datganiadau amodol: Gêm bwrdd robotiaid
Yn y weithgaredd yma byddwn yn archwilio sut mae cyfrifiaduron yn dilyn rheolau trwy ddefnyddio datganiadau amodol. Byddwch yn creu eich datganiadau amodol eich hyn ac yn rhaglennu eich robot i chwarae gêm bwrdd.
Mae’r weithgaredd yma ar gyfer:
- cyfnod allweddol 2
Lawrlwythwch y pecyn gêm bwrdd robot, PDF
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.
Ynglŷn â'r trefnydd
Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â ni yn mcnamee-brittainc@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
Os oes gennych unrhyw gwestiynnau, cysylltwch â:
Nid oes angen cadw lle ymlaen llaw.
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim