Tudalen Adnoddau Ffiseg a Seryddiaeth ar y We
- Ar gael ar gais
- Hyblyg
Yma cewch hyd i ddolenni i rai adnoddau a awgrymir, a luniwyd gan staff a myfyrwyr yn Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd.
Mae rhai o’r adnoddau a’r gweithgareddau hyn wedi cael eu creu gennym ni, rhai mewn cydweithrediad ȃ ni, ac mae rhai gan sefydliadau allanol - er ein bod ni’n eu hargymell i gyd! Mae ystod eang iawn o adnoddau, gan gynnwys:
- realiti rhithwir ac estynedig
- gweithgareddau codio
- gweithgareddau crefft
- paratoadau gradd
- llyfrau, podlediadau apiau a fideos
- gweithgareddau ar-lein ac i’w hargraffu
- taflenni gwaith.
Ymhlith y pynciau a gynhwysir mae:
- seryddiaeth
- tonnau disgyrchol
- ffiseg
- mathemateg
- codio.
Gallwch ddefnyddio hidlyddion ar ein tudalen gwe i chwilio am adnoddau sy’n berthnasol i’ch myfyrwyr, gan ddidoli’r adnoddau yn ôl oed, maes pwnc, math o adnoddau a mwy.
Mae’r holl adnoddau ar gael yn Saesneg ac mae rhai ar gael yn Gymraeg hefyd.
Enghreifftiau o’n hadnoddau
Anturiaethau Gwyddonol Ada
Comig yw hwn a grewyd gan y bartneriaeth rhwng y gwyddonydd a’r artist, Edward Gomez a Laura Sorvala. Mae’r gyfres hon o dri llyfr comig yn cyffroi ac yn grymuso plant i wneud gwyddoniaeth. Mae’r gyfres o lyfrau comig yn cynnwys Ada, merch sydd ddim yn ofni gofyn cwestiynau am y byd o’i chwmpas, wrth iddi fynd ar ei hanturiaethau Gwyddonol.
Addas ar gyfer CA2, CA3 a theuluoedd. Mae adnoddau addysgol i gyd-fynd ȃ nhw.
Adnoddau Ffiseg Realiti Estynedig
Mae Realiti Estynedig yn gosod gwrthrychau 3D yn y byd go iawn. Yn union fel Pokemon Go, sydd mor boblogaidd, gallwch chi archwilio planedau yng nghysawd yr haul, tyllau du, uwchnofâu a llawer mwy, fydd yn ymddangos ar y bwrdd o’ch blaen. Y cyfan bydd arnoch ei angen yw ffôn clyfar neu dabled android i gychwyn arni.
Addas ar gyfer CA2, CA3 a CA4.
Podlediad Seryddiaeth Pythagoras
Podlediad seryddiaeth misol o’r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, sy’n rhoi sylw i newyddion seryddiaeth o bob rhan o’r byd.
Addas ar gyfer CA2 ac uwch.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.
Ynglŷn â'r trefnydd
Allgymorth yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â ni yn schools@astro.cf.ac.uk i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
Gallwch gyrchu’r holl adnoddau trwy ein catalog ar-lein. Os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch ȃ Thîm Allgymorth yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth:
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim