Bwydo Côr y Cewri - Creu Caws Oes y Cerrig
- Ar gael ar gais
- Hyblyg
Mae'r adnoddau hyn yn defnyddio cyd-destun gwledda yng Nghôr y Cewri i ystyried agweddau ar brosesu bwyd, alergeddau ac anoddefiad bwyd.
Mae cyfleoedd i fyfyrwyr:
- greu a phrofi eu caws colfran
- ystyried effaith y prosesu ar gynnwys lactos bwydydd
- gwerthuso effaith anoddefiad lactos ar ffordd o fyw ac iechyd
- dysgu'r gwahaniaeth rhwng alergeddau ac anoddefiad bwyd mewn cwis
- a'r opsiwn i gymharu cynhyrchu protein maidd modern gyda chreu caws.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.
Ynglŷn â'r trefnydd
Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Julie Best yn bestj3@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
Mae'r adnoddau'n cynnwys canllaw i athrawon sydd ar gael ar-lein. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â:
Nid oes angen cadw lle ymlaen llaw.
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim
Cynulleidfa
Mae angen goruchwyliaeth athrawon.