Tiwtorialau Hacio Gemau
- Ar gael ar gais
- Hyblyg
Mae’r tiwtorial hwn yn dysgu disgyblion sut i greu gemau gan ddefnyddio Microsoft MakeCode ac fe’i lansiwyd yn rhan o Hacathon Plant Caerdydd.
Trwy ddilyn y tiwtorialau, mae myfyrwyr yn dysgu sut i ail-greu gêm bos arcêd glasurol Sokoban. Bydd myfyrwyr yn dysgu’r sgiliau codio a datblygu gemau y mae eu hangen arnynt i greu eu fersiwn eu hunain o’r gêm
Caiff datblygiadau eu harbed yn awtomatig felly gallant ddychwelyd i’r wefan i’w gwblhau unrhyw bryd.
Y cyfan y bydd ei angen arnoch i gwblhau’r tiwtorial hwn yw cyfrifiadur â chysylltiad â’r we.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.
Ynglŷn â'r trefnydd
Yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â ni yn schools@astro.cf.ac.uk i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
Mae’r gweithgaredd hwn ar gael ar-lein ar unrhyw adeg. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â thîm allgymorth yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth:
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim
Cynulleidfa
Mae angen goruchwyliaeth athrawon.