Teithiau tywys a gweithdai llyfrgell
- Ar gael ar gais
- Hyblyg
- Ar gael yn Gymraeg
Mae'r teithiau tywys yn cyflwyno myfyrwyr i amgylchedd y llyfrgell, a gellir eu teilwra i'w helpu i ddechrau defnyddio ein casgliadau i gwblhau tasg ymchwil.
Teithiau i Grwpiau
Os hoffech drefnu taith tywys fel grŵp, cysylltwch â ni bythefnos cyn yr hoffech ymweld er mwyn trafod eich anghenion. Gallwn roi cyngor ynghylch pa lyfrgell fyddai orau i chi ymweld â hi a chytuno ar ddyddiad addas.
Gweithdai
Mae'r Llyfrgell hefyd yn cynnig gweithdai rhyngweithiol i ddatblygu gallu eich myfyrwyr i ddod o hyd i ffynonellau gwybodaeth academaidd, a'u defnyddio i gynorthwyo eu hastudiaethau. Gellir teilwra gweithdai ar gyfer eich anghenion ac i gyd-fynd â'ch deilliannau dysgu. Gall y pynciau gynnwys:
- nodi ffynonellau gwybodaeth priodol at ddibenion tasg ymchwil
- chwilio am wybodaeth academaidd
- gwerthuso safon ffynonellau a'u cynnwys yn feirniadol
- cadw cofnod o'r wybodaeth y dewch o hyd iddi
- osgoi llên-ladrad
- cyfeirnodi yn unol â dull Harvard, APA, MHRA neu Vancouver.
Os hoffech drefnu gweithdy, cysylltwch â ni o leiaf fis ymlaen llaw i drafod eich gofynion.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.
Ynglŷn â'r trefnydd
Gwasanaeth Llyfrgelloedd y Brifysgol sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â ni yn librarytraining@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
Ewch i'n gwefan am ragor o wybodaeth ac i ddod o hyd i'r ffurflen archebu ar gyfer ymweliadau a gweithdai. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, ebostiwch:
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim
- Llyfrgelloedd y Brifysgol (gellir addasu'r union leoliad i'ch anghenion chi).
Cynulleidfa
Mae angen goruchwyliaeth athrawon.