Cymorth Bagloriaeth Cymru gan Ysgol Pensaernïaeth Cymru
- Ar gael ar gais
- Hyblyg
- Ar gael yn Gymraeg
Mae Ysgol Pensaernïaeth Cymru wedi datblygu cyfres o ddeunyddiau addysgu a dysgu sy'n canolbwyntio ar gyflwyno pensaernïaeth fel pwnc i ddysgwyr.
Bydd y deunyddiau yn helpu i gyflwyno pob un o heriau Bagloriaeth Cymru a datblygiad y Prosiect Unigol.
Rydym wedi ymrwymo i wella ein hymgysylltiad ag ysgolion cynradd, uwchradd ac addysg bellach leol a chenedlaethol a cholegau fel rhan o'n rhaglen allgymorth.
Mae pump o'n myfyrwyr israddedig wedi bod yn gweithio i greu'r gyfres hon o wersi a deunyddiau cyffrous i helpu athrawon Bagloriaeth Cymru i gyflwyno'r cymhwyster yn llwyddiannus. Mae’r rhain yn cynnwys:
- taflenni gwaith
- tasgau gwersi cam wrth gam
- Cyflwyniadau PowerPoint i gyflwyno pensaernïaeth.
Mae myfyrwyr israddedig o Ysgol Pensaernïaeth Cymru wedi derbyn cefnogaeth i gwblhau'r prosiect hwn gan Brosiect Partneriaeth Ysgolion y Brifysgol a CBAC.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.
Ynglŷn â'r trefnydd
Ysgol Pensaernïaeth Cymru sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Kelly Butt yn buttkl@caerdydd.ac.uk neu +44 (0)2920 875968 i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Kelly Butt:
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim