Pecyn Adnoddau Pensaernïaeth
- Ar gael ar gais
- Hyblyg
Dyluniwyd ein pecynnau adnoddau ar gyfer disgyblion ysgol gynradd ac uwchradd.
Mae’r pecynnau ar gael ar-lein a thrwy CBAC.
Cafodd adnoddau Cyflwyniad i Bensaernïaeth eu treialu yn ystod haf 2015 mewn nifer o ddigwyddiadau, gan gynnwys:
- stondin Tai Cynaliadwy i Bryfed yng Ngŵyl Grangetown
- gweithdy sy’n creu ac yn profi cychod model o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu yn nigwyddiad STEM y Brifysgol, yng Ngholeg Dewi Sant
- Ysgol Haf Camu 'Mlaen + Prifysgol Caerdydd
- gweithdy Cyflwyniad i Bensaernïaeth yn Ysgol Parc Ninian.
Nod y pecynnau yw cyflwyno pensaernïaeth fel pwnc a gyrfa i ddisgyblion ysgol gynradd ac uwchradd. Hefyd, gallan nhw fod yn adnodd i ddisgyblion sy’n ymddiddori mewn cyflwyno cais i astudio Pensaernïaeth yn y Brifysgol.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.
Ynglŷn â'r trefnydd
Ysgol Pensaernïaeth Cymru sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Kelly Butt yn buttkl@caerdydd.ac.uk neu +44 (0)7824703757 i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
I gael mwy o wybodaeth am ein hadnoddau dysgu ac addysgu, neu i ofyn i’n hinterniaid pensaernïol gyflwyno gweithdy, cysylltwch â Kelly Butt:
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim