Gweithdai Ysgol Pensaernïaeth Cymru
- Ar gael ar gais
- Hyd at 2 awr
Mae Ysgol Pensaernïaeth Cymru yn cynnig gweithdai ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd lleol.
Mae ein staff ar gael i ymweld ag ysgolion i addysgu gweithdai a rhoi trosolwg i ddisgyblion o bensaernïaeth fel pwnc a phroffesiwn. Gellir teilwra'r gweithdai i bob grŵp oedran mewn ysgol gynradd neu uwchradd.
Yn ystod y gweithdy, mae dosbarthiadau'n cymryd rhan mewn gweithgareddau fel creu eu tai model eu hunain. Rydym hefyd yn trafod y gwahanol agweddau ar ddylunio tai y mae angen i benseiri feddwl amdanyn nhw, fel deunyddiau, hyblygrwydd, amgylchedd, tryloywder a swyddogaeth. Rydym hefyd yn annog disgyblion i feddwl yn greadigol a defnyddio eu dychymyg.
Ynglŷn â'r trefnydd
Ysgol Pensaernïaeth Cymru sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Kelly Butt yn buttkl@caerdydd.ac.uk neu +44 (0)2920 875968 i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
I gael rhagor o wybodaeth am gael gweithdy yn eich ysgol chi, ebostiwch:
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim
Rydym yn dod atoch chi
Rydym am ei gwneud yn hawdd i chi weithio gyda ni. Lle bynnag y bo modd, byddwn yn dod â'r gweithgaredd hwn i'ch ysgol neu'ch coleg.