Gweithdy Newyddiaduraeth a Chyfathrebu JOMEC Cymraeg
- Ar gael ar gais
- Hyblyg
- Ar gael yn Gymraeg yn unig
Mae hwn yn gyfle cyffrous i fyfyrwyr sy’n ymddiddori yn y cyfryngau, newyddiaduriaeth a chyfathrebu ddysgu mwy am gyfleoedd gyrfaol a llwybrau astudio perthnasol.
Mae ein gweithdai Cymraeg rhad ac am ddim yn cynnig amgylchedd dysgu rhyngweithiol sy’n annog myfyrwyr i ddysgu sgiliau newydd, gan gynnwys sgiliau newyddiaduriaeth ddigidol a chael cipolwg ar yr amrywiaeth o yrfaoedd sy’n bodoli ar draws y diwydiannau creadigol. Gall ein gweithdai rhad ac am ddim gynnwys:
- creu cynnwys digidol
- adrodd straeon aml-lwyfan ffantastig
- adnabod newyddion ffug
- llunio trefn rhaglen newyddion
- dysgu am y gwahanol rolau mewn ystafell newyddion
- cyflwyno newyddion teledu.
Ewch i’n cyfrif @JOMECCymraeg Twitter i weld rhai o’r gweithgareddau y gallwn eu cynnig mewn ysgolion.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.
Ynglŷn â'r trefnydd
Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant (JOMEC) sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Sian Morgan Lloyd yn LloydSM5@caerdydd.ac.uk neu +44 (0)2920 876843 i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
JOMEC Cymraeg sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Sian Morgan Lloyd am fwy o fanylion.
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim
Rydym yn dod atoch chi
Rydym am ei gwneud yn hawdd i chi weithio gyda ni. Lle bynnag y bo modd, byddwn yn dod â'r gweithgaredd hwn i'ch ysgol neu'ch coleg.
Cynulleidfa
Mae angen goruchwyliaeth athrawon.