Prifysgol Caerdydd yn cefnogi Rhwydwaith Seren
- Ar gael ar gais
- Hyblyg
- Ar gael yn Gymraeg
Rydym yn gweithio ar y cyd â Rhwydwaith Seren Llywodraeth Cymru i ysbrydoli a chodi dyheadau’r disgyblion mwyaf galluog yn academaidd yng Nghymru.
Mae staff o’n hysgolion academaidd, yn ogystal â’n timau israddedig ac ehangu cyfranogiad yn cynnig amrywiaeth o ddarlithoedd, trafodaethau rhyngweithiol a sesiynau ymarferol i ddisgyblion Seren cyn 16 oed a hŷn.
Gellir cynnal y gweithgareddau hyn mewn ysgolion, lleoliadau cymunedol neu ar gampws y Brifysgol.
Os ydych yn arweinydd i Hwb Seren neu’n gydlynydd ysgol ac os hoffech chi ddysgu mwy neu ofyn am gefnogaeth gan y Brifysgol, ebostiwch serenevents@cardiff.ac.uk.
Mae mwy o wybodaeth ar gael am y Rhwydwaith Seren ar wefan Llywodraeth Cymru.
Ynglŷn â'r trefnydd
Cyfathrebu a Marchnata sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â ni yn serenevents@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
Os ydych yn arweinydd i Hwb Seren neu’n gydlynydd ysgol, ac os hoffech chi ddysgu mwy neu ofyn am gefnogaeth gan y Brifysgol, ebostiwch ni
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim
Rydym yn dod atoch chi
Rydym am ei gwneud yn hawdd i chi weithio gyda ni. Lle bynnag y bo modd, byddwn yn dod â'r gweithgaredd hwn i'ch ysgol neu'ch coleg.
Cynulleidfa
Mae angen goruchwyliaeth athrawon.