Prosiect Mentora Myfyrwyr Ieithoedd Tramor Modern
- Ar gael ar gais
- Hyblyg
- Ar gael yn Gymraeg
Rydym yn rhoi cyfle i'n myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig fynd i ysgolion uwchradd fel mentoriaid er mwyn ysbrydoli disgyblion i garu a gwerthfawrogi ieithoedd.
Rydym yn cynnig mentora wyneb yn wyneb ac ar-lein i wella'r broses o ymgysylltu ag ieithoedd tramor modern, gyda'r nod o gynyddu'r nifer o ddisgyblion ysgol uwchradd sy'n dewis astudio ieithoedd ar lefel TGAU, a thu hwnt.
Fideo Prosiect Mentora Myfyrwyr (Fersiwn Fer).
Beth rydym yn ei gynnig
Bydd ein mentoriaid yn treulio hyd at ddiwrnod yr wythnos yn gweithio gyda myfyrwyr Blwyddyn 9, mewn grwpiau bach (5-8 disgybl), dros gyfnod o 12 wythnos. Caiff hyn ei rannu yn ddwy sesiwn o chwe wythnos, gydag un yn cael ei chynnal o fis Tachwedd hyd at fis Rhagfyr a’r llall o fis Chwefror hyd at fis Mawrth.
Mae cynnwys y rhaglen yn canolbwyntio ar le'r dysgwr mewn byd sy'n globaleiddio, gan eu hannog i werthfawrogi a chroesawu ieithoedd a diwylliannau eraill, tra'n eu cyflwyno i'r manteision ymarferol o ddysgu ieithoedd ychwanegol. Gallwn hefyd fod yn hyblyg i gyd-fynd ag anghenion eich ysgol.
Mentora dwys
Fel arall, gallwn gynnal sesiwn mentora un diwrnod gyda dosbarth os na all eich ysgol ymrwymo i'r rhaglen chwe wythnos lawn.
Ein hamcanion
Diben y rhaglen yw gwneud y canlynol:
- dangos manteision dysgu iaith dramor fodern ar lefel TGAU, Safon Uwch neu radd
- ehangu dyheadau dysgwyr drwy amlygu cyfleoedd o ran gyrfa a symudedd sydd ar gael i'r rhai hynny sydd â sgiliau iaith
- codi disgwyliadau, gwella cymhelliant a chryfhau dyfalbarhad a gwytnwch personol y dysgwyr sy'n astudio ieithoedd tramor modern
- creu cysylltiadau cynaliadwy rhwng addysg uwch ac ysgolion uwchradd
- cynnig cyfleoedd a phrofiadau yn yr ystafell ddosbarth i fyfyrwyr israddedig ieithoedd tramor modern, gyda'r nod o annog mwy o bobl i ystyried dysgu iaith dramor fodern
- creu ymgysylltiad rhwng myfyrwyr y Brifysgol a'r gymuned leol.
Canlyniadau
Dros y pum mlynedd diwethaf, rydym wedi gweld nifer y myfyrwyr sy'n astudio ieithoedd tramor modern ar gyfer TGAU yn dyblu, neu mewn rhai achosion, yn treblu mewn ysgolion sy'n cymryd rhan. Mae ysgolion hefyd wedi adrodd bod dyheadau a hunanhyder y myfyrwyr wedi gwella yn dilyn cael y cyfle i drafod bywyd prifysgol a chymwysiadau ehangach iaith gyda'r mentoriaid.
Eleni, mae'r prosiect yn gweithio gyda 73 o ysgolion, ond rydym bob amser yn awyddus i ehangu a rhannu'n cariad at ieithoedd gyda mwy o ddisgyblion ar draws Cymru.
Adborth gan athrawon
"Mae cymaint mwy i ieithoedd nag oeddwn i wedi dychmygu, gall ieithoedd fod yn rhan o bopeth rydym yn ei wneud."
"Diolch am y gweithdy mwyaf ysbrydoledig mae fy myfyrwyr wedi bod iddo! Maen nhw wedi'u plesio ac yn ddiolchgar am y cyfleoedd. Diolch yn fawr iawn."
Adborth gan fentoreion
"Roeddwn i wrth fy modd gyda'r sesiwn athroniaeth a gawsom. Mae mor ysbrydoledig a chadarnhaol gweld syniadau a thrafodaethau nad ydynt fel arfer yn digwydd o ddydd i ddydd yn cael eu trafod mewn ffordd ddiddorol a pharchus, gyda syniadau newydd yn cael eu ffurfio a hen ragfarnau yn cael eu hanghofio."
"Fe wnes i wir fwynhau bod y sesiynau yn rhoi'r cyfle i mi leisio fy marn yn agored."
Prosiectau cysylltiedig
O ganlyniad i lwyddiant y prosiect hwn, mae nifer o raglenni cysylltiedig wedi'u creu, gan gynnwys:
- Mentora ffiseg
- Mentora'r Iaith Gymraeg
- Gorwelion Iaith
- Modiwl Addysgu Myfyrwyr yn rhan o raglen Israddedig blwyddyn olaf Prifysgol Caerdydd drwy leoliad rhyngwladol gydag ardal Castilla y Leon, Sbaen.
- Modiwl addysgeg Erasmus yn rhan o raglen Israddedig Prifysgol Caerdydd.
Mae'r Prosiect Mentora Myfyrwyr Ieithoedd Tramor Modern yn bartneriaeth rhwng Prifysgolion Caerdydd, Bangor, Abertawe ac Aberystwyth ac yn fodel blaenllaw sy'n hyrwyddo partneriaethau ar draws lefelau addysg i hyrwyddo achos cyffredin. Caiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru o dan ei Strategaeth Dyfodol Byd-eang 2015-2020. Mae'r tîm prosiect hefyd yn cefnogi'r nod strategol, sy'n ceisio rhwystro a gwyrdroi'r gostyngiad yn nifer y rhai sy'n dewis astudio ieithoedd tramor modern ar draws Cymru.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.
Ynglŷn â'r trefnydd
Prosiect Mentora Myfyrwyr ITM sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Lucy Jenkins yn jenkinsl27@caerdydd.ac.uk neu +44 (0)2920876630 i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim
Rydym yn dod atoch chi
Rydym am ei gwneud yn hawdd i chi weithio gyda ni. Lle bynnag y bo modd, byddwn yn dod â'r gweithgaredd hwn i'ch ysgol neu'ch coleg.