Darlithoedd Cyhoeddus ar Wyddoniaeth mewn Iechyd
- Ionawr, Chwefror, Mawrth, Hydref, Tachwedd, Rhagfyr
- Hyd at 2 awr
Mae’r Gyfres o Ddarlithoedd Cyhoeddus Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd yn ddigwyddiadau rhad ac am ddim sy’n denu cynulleidfa amrywiol gan gynnwys y cyhoedd, disgyblion ysgolion uwchradd a gweithwyr proffesiynol.
Nod y gyfres yw ceisio trin a thrafod meysydd sy’n peri pryder mewn gofal iechyd a chyhoeddi ymchwil newydd am faterion iechyd i'r cyhoedd.
Cynhelir y darlithoedd ar nosweithiau Iau am 19:00, rhwng mis Hydref a mis Ebrill, fel arfer yn y Ddarlithfa Fawr Cemeg ym Mhrif Adeilad y Brifysgol. Mae'r darlithoedd yn rhad ac am ddim, ac nid oes rhaid i chi gadw lle ymlaen llaw. Mae croeso i bawb – gan gynnwys disgyblion ysgol uwchradd sydd â diddordeb mewn gyrfa ym maes gofal iechyd.
Bydd cyfle i ddisgyblion blwyddyn 12 a 13 lleol gyfarfod â'r siaradwr cyn y ddarlith. Os ydych yn ddisgybl blwyddyn 12 neu 13 ac yn dymuno cwrdd ag un o’r siaradwyr, cysylltwch ag Ymgysylltu â MEDIC.
Caiff ein holl sesiynau eu recordio a’u rhoi ar ein gwefan fel na fyddwch yn colli darlith, ac y gallwch weld yr amrywiaeth enfawr o bynciau yr ydym wedi'u trafod.
Gallwch lawrlwytho'r rhaglen ar gyfer pynciau darlith eleni, yn ogystal â'u dyddiadau ac amseroedd.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.
Ynglŷn â'r trefnydd
Tîm Ymgysylltu, Ysgol Meddygaeth sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Karen Edwards yn medicengagement@caerdydd.ac.uk neu +44 (0)2920742104 i gael rhagor o fanylion.
Nid oes angen cadw lle ymlaen llaw.
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim
- Darlithfa Fawr Cemeg, Y Prif Adeilad
- Plas y Parc
- Caerdydd
- CF10 3AT
Cynulleidfa
Mae angen goruchwyliaeth athrawon.