Her y Gwyddorau Bywyd
- Chwefror, Mai, Mehefin, Medi
- Hyd at 2 awr
- Ar gael yn Gymraeg
Mae'r fenter gyffrous hon yn rhoi cyfle i ddisgyblion gwrdd â gwyddonwyr ifanc sy’n llawn angerdd a brwdfrydedd dros geisio deall y byd naturiol.
Nod y cwis yw ysbrydoli disgyblion ledled Cymru i ystyried posibiliadau gyrfaoedd mewn gwyddoniaeth, ac mae’n cael ei gynnal yn gyfochrog ar gyfer ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg. Mae’r timau cynnwys 4 disgybl sydd â diddordeb mewn gwyddoniaeth.
Yn gyntaf, bydd y timau'n cystadlu mewn rownd ragarweiniol a gaiff ei chynnal ar-lein. Bydd yr wyth tîm â’r sgôr uchaf yn yr ysgolion Cymraeg a’r rhai Saesneg yn mynd ymlaen i’r rowndiau gogynderfynol, lle byddant yn cystadlu mewn dull benben lle mae’r rhai sy’n colli’n gadael y gystadleuaeth, yn yr un modd â sioeau cwis megis ‘A Question of Sport’, ‘University Challenge’ ac ‘Only Connect’. Mae’r cwis yn cynnwys cwestiynau unigol a chwestiynau i’r tîm.
Mae ein Tîm Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd o fyfyrwyr PhD yn ymweld ag ysgolion er mwyn cynnal y rowndiau gogynderfynol a chynderfynol, a chynhelir y rownd derfynol yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd.
Bydd rhai o gwestiynau'r cwis yn dilyn y Cwricwlwm Cenedlaethol, ond efallai y bydd eraill yn gofyn am wybodaeth a geir drwy ddarllen ac ymchwilio pellach. Mae’n bwysig y bydd rhai cwestiynau'n profi gallu disgyblion i ddadansoddi data a defnyddio rhesymeg a gwybodaeth a ddysgwyd i ddelio â chysyniadau anghyfarwydd. Bydd y cwestiynau'n ymwneud yn bennaf â bioleg a chemeg, ond gallant gynnwys agweddau ar ffiseg a daeareg pan fo hyn yn ymwneud â deall y byd naturiol. Rydym yn disgwyl i'r cwestiynau fod yn heriol ond yn hwyl i'r disgyblion!
Cynhelir y rowndiau rhagarweiniol ym mis Chwefror, yna rownd yr wyth olaf. Bydd y rowndiau cynderfynol ym mis Mai a Mehefin a chynhelir y rownd derfynol ym mis Medi. Cynhelir rownd yr wyth olaf a’r rownd gynderfynol mewn ysgolion uwchradd sy’n cymryd rhan. Cynhelir y rownd derfynol yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, Parc Mynydd Bychan, Caerdydd, CF14 4XN.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.
Ynglŷn â'r trefnydd
Tîm Ymgysylltu, Ysgol Meddygaeth sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Karen Edwards yn medicengagment@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
Anfonwch ebost atom i gofrestru tîm neu dimau.
medicengagement@caerdydd.ac.uk
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim
Rydym yn dod atoch chi
Rydym am ei gwneud yn hawdd i chi weithio gyda ni. Lle bynnag y bo modd, byddwn yn dod â'r gweithgaredd hwn i'ch ysgol neu'ch coleg.
Cynulleidfa
Mae angen goruchwyliaeth athrawon.