Profiad gwaith Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd
- Mehefin, Gorffennaf
- Mwy nag un diwrnod
Bydd ymgeiswyr blwyddyn 12 llwyddiannus yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn profiad gwaith mewn labordy, a chânt flas estynedig ar amgylchedd ymchwil yr Ysgol Meddygaeth.
Bydd y disgyblion yn cael profiad uniongyrchol o amrywiaeth o’r technolegau diweddaraf, ac yn gweithio fesul tri gyda nifer o wahanol ymchwilwyr a’u grwpiau ymchwil. Mae’r rhain yn cynnwys:
- bioleg foleciwlaidd -cytometreg llif
- dilyniannu DNA
- meicro-chwistrellu wyau
- sbectrometreg màs firoleg
- crisialeg pelydr-X
- ffarmacoleg
- imiwnoleg gellol.
Bydd y disgyblion yn dysgu am bwysigrwydd arbrofi ar anifeiliaid mewn gwaith ymchwil biofeddygol sylfaenol ac wrth ddatblygu triniaethau meddygol newydd. Bydd y disgyblion hefyd yn cael cwrdd â myfyrwyr PhD a chymrodorion ôl-ddoethurol a threulio amser gyda nhw, gan fod llawer ohonynt yng nghyfnodau cynnar eu gyrfaoedd.
Cynhelir y cynllun am gyfnod o bedair wythnos yn ystod mis Mehefin a mis Gorffennaf. Mae cael eich derbyn ar y cynllun profiad gwaith hwn yn gystadleuol. Gellir lawrlwytho’r ffurflen gais ar ein gwefan. Y dyddiad cau blynyddol ar gyfer y cynllun yw 31 Mawrth.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.
Ynglŷn â'r trefnydd
Tîm Ymgysylltu, Ysgol Meddygaeth sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Karen Edwards yn medicengagement@caerdydd.ac.uk neu +44 (0)2920 742104 i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
Gallwch lawrlwytho ffurflen gais o’n gwefan. Y dyddiad cau blynyddol ar gyfer y cynllun yw 31 Mawrth. Cysylltwch ar bob cyfrif os oes gennych unrhyw gwestiynau.
medicengagement@caerdydd.ac.uk
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim
- Ysgol Meddygaeth,