Clefydau Ocwlar
- Ar gael ar gais
- Hyblyg
Mae’r gweithgaredd hwn yn dangos effeithiau byw gyda chyflyrau llygad gwahanol.
Dangosir amrywiaeth o sbectolau efelychu arbennig i fyfyrwyr sy’n efelychu clefydau’r llygaid a namau gweledol. Mae pob pâr o sbectolau yn adlewyrchu clefyd neu nam ar y llygaid gwahanol, megis glawcoma, cataractau, retinopathi diabetig a dirywiad macwlaidd a llawer mwy.
Gall y myfyriwr felly gael profiad ymarferol o effaith y cyflyrau cyffredin hyn ar olwg.
Caiff myfyrwyr hefyd wybod am yr hyn mae gwyddonwyr yn ei wneud i frwydro yn erbyn y clefydau hyn.
Ynglŷn â'r trefnydd
Athrofa Peirianneg a Thrwsio Meinweoedd Caerdydd sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Amy Smith yn citer@caerdydd.ac.uk neu +44 (0)29 2087 0129 i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
Gallwn gyflwyno’r gweithgaredd hwn ar gais gan gydweithwyr Prifysgol Caerdydd neu mewn digwyddiadau Athrofa Peirianneg a Thrwsio Meinweoedd Caerdydd. Anfonwch ebost atom i wneud cais.
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim
- Lleoliadau amrywiol yn ôl y gofyn.