Rhaglen Camu 'Mlaen
Mae rhaglen Camu ‘Mlaen yn rhaglen academaidd dwy flynedd am ddim i fyfyrwyr coleg a chweched dosbarth wedi dioddef anfantais neu aflonyddwch addysgol.
Mae'r rhaglen yn cynnig y cyfle gwych i gael profiad o fywyd yn y brifysgol drwy ddosbarthiadau meistr academaidd a gŵyl haf y brifysgol.
Nod y rhaglen hon yw rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth gywir i fyfyrwyr wneud eu ffordd drwy’r broses gwneud cais yn llwyddiannus a ffynnu yn y brifysgol.
Uchafbwyntiau'r cynllun
- Cyfle i gymryd rhan mewn cyrsiau academaidd byr pwrpasol a luniwyd i baratoi myfyrwyr ar gyfer astudio mewn amgylchedd prifysgol.
- Gwahoddiadau unigryw i ddigwyddiadau wedi’u teilwra, megis sesiynau mewn diwrnodau agored a gweithdai ar ddatganiadau personol.
- Mynediad neilltuedig i ŵyl breswyl dros yr haf ar gyfer blwyddyn 12.
- Neilltuir tiwtor academaidd ar gyfer pob myfyriwr.
- Cwrdd â myfyrwyr presennol y brifysgol oedd yn rhan o’r rhaglen gynt.
- Bwrsariaeth prawf modd i fyfyrwyr sy’n mynd ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd (yn amodol ar amodau a thelerau).
Meini prawf cymhwysedd
Er mwyn dod yn aelod o'r rhaglen, rhaid i fyfyrwyr nodi un o’r grwpiau canlynol fel eu hunaniaeth:
- byw mewn ardal o amddifadedd economaidd-gymdeithasol (cymunedau yn gyntaf, cymdogaethau cyfranogiad isel, cymwys am brydau ysgol am ddim)
- y cyntaf yn y teulu i fynd i addysg uwch
- ceisiwr lloches
- pobl ifanc â chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth
- myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio
- profiad o fod mewn gofal
- pobl ifainc â chyfrifoldebau gofalu.
Yn ogystal â chefnogi’r grwpiau a restrir uchod, rydym wedi ymrwymo i gefnogi pob myfyriwr sydd wedi dioddef anfantais neu aflonyddwch addysgol. Cysylltwch â ni i drafod unrhyw amgylchiadau penodol.
Cysylltu â ni
Ebostiwch ein Tîm Ehangu Cyfranogiad i gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen Camu ‘Mlaen: