Ewch i’r prif gynnwys

Sioe Deithiol Addysg Uwch

Mae’r Sioe Deithiol Addysg Uwch yn cynnig amrywiaeth o gyflwyniadau a gweithdai i ysbrydoli myfyrwyr ym mlynyddoedd 9 i 11, yn bennaf mewn ysgolion ledled Cymru.

Ar y cyd â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, mae’r prosiect hwn yn targedu’n bennaf yr ardaloedd hynny lle mae’r cyfraddau sy’n parhau i addysg uwch yn isel. Mae’n canolbwyntio hefyd ar helpu myfyrwyr i wireddu eu potensial, yn ogystal â rhoi rhagor o fanylion am y profiad o fynd i’r brifysgol drwy chwalu camsyniadau cyffredin. Mae’r prosiect yn:

  • darparu mwy na 100 o gyflwyniadau bob blwyddyn
  • cyrraedd mwy na 20,000 o ddisgyblion
  • treulio oriau maith yn gweithio'n galed mewn ysgolion a grwpiau cymunedol yn cyflwyno sesiynau
  • cynnal wythnosau rhanbarthol yng Ngogledd, Canolbarth a Gorllewin Cymru, yn ogystal â theithio ledled Cymru ar adeg sy'n gweddu i chi

Ymhlith ein cyflwyniadau mwyaf poblogaidd y mae:

  • Beth yw Addysg Uwch?
  • Gwneud y dewisiadau cywir ar gyfer y chweched dosbarth/coleg
  • Sgiliau astudio ac adolygu
  • Bywyd myfyrwyr
  • Talu am y Brifysgol a Chyllidebu
  • Pam dewis ieithoedd?
  • Meithrin Gwydnwch a Rheoli eich Iechyd Meddwl
  • Cyflwyniad i Raddau Chwaraeon yn y Brifysgol

Gallwch gadw lle ar daith o amgylch y campws yn rhad ac am ddim, naill ai’n Brifysgol Caerdydd neu Brifysgol Metropolitan Caerdydd, lle bydd myfyrwyr yn mynd ar daith helfa sborion o amgylch y safle, a fydd yn cynnwys cwisiau a gweithdy/cyflwyniadau sy’n gweddu i anghenion eich myfyrwyr. I gadw eich lle, anfonwch e-bost gan ddefnyddio'r wybodaeth gyswllt isod.

Dewch i wybod rhagor am ein Diwrnod Ysbrydoliaeth y Brifysgol, sy’n gyfle gwych i fyfyrwyr rhwng 13 ac 16 oed brofi sut beth yw mynd i'r brifysgol mewn gwirionedd. Yn flaenorol, rydym wedi cynnal Profion Ffitrwydd, Cyflwyniad i Ymchwiliadau Troseddol a sesiynau Seicoleg yn ystod ein diwrnodau blasu.

Cysylltwch â ni

Cysylltwch â ni er mwyn cael rhagor o wybodaeth am y Sioe Deithiol Addysg Uwch a dilynwch ni ar Twitter @CDF_HigherEd.

Sioe Deithiol Addysg Uwch