Rhaglenni Sutton Trust
Mae’r rhaglenni Sutton Trust yn rhoi'r cyfleoedd i fyfyrwyr gael rhagor o wybodaeth, cyngor ac arweiniad ynghylch cyrsiau prifysgol sy’n arwain at broffesiynau penodol.
Mae'r rhaglenni yn rhad ac am ddim ac yn agored i fyfyrwyr yn y chweched dosbarth neu goleg sydd wedi bod dan anfantais yn addysgol neu sydd wedi profi tarfu ar eu haddysg a'r rheiny sy'n perthyn i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg uwch.
Bydd cyfres o ddigwyddiadau ymarferol yn cael eu cynnal dan arweiniad ymarferwyr ac ymchwilwyr sy’n arbenigwyr yn eu meysydd. Nod pob digwyddiad yw rhoi'r sgiliau a'r profiad angenrheidiol i wneud cais llwyddiannus i wneud y cyrsiau hyn sydd fel arfer yn rhai cystadleuol.
Mae'r rhaglenni yn cynnwys:
- Ysgol haf meddygaeth a deintyddiaeth
- Llwybrau at y gyfraith
- Llwybrau at beirianneg
Bydd y digwyddiadau’n cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn, a bydd y manylion i’w gweld ar dudalen chwilio’r ysgol o ran ymgysylltu ag ysgolion – chwiliwch am ‘Sutton Trust’.
Cysylltu â ni
Ebostiwch ein tîm Ehangu Cyfranogiad i gael gwybod rhagor am y rhaglenni Sutton Trust: