Ewch i’r prif gynnwys

Dyfodol Hyderus

Ein cenhadaeth yw grymuso pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal, a fabwysiadwyd neu sydd wedi ymddieithrio oddi wrth eu teulu, yn ogystal â gofalwyr ifanc 14+ oedi deimlo'n hyderus am ddewis eu dyfodol a chyfleoedd ym myd Addysg Uwch.

Diwrnodau ymweld â'r campws

Rydyn ni’n gwahodd grwpiau eich pobl ifanci Brifysgol Caerdydd am ddiwrnod llawn gweithgareddau ysbrydoledig sy’n llawn hwyl ac yn chwalu’r camsyniadau am y brifysgol a llwyddo yno.

Sgyrsiau Ysbrydoledig

Rydyn ni’n ymweld ag ysgolion, elusennau a sefydliadau eraill i drefnu un neu ragor o sgyrsiau ysbrydoledig i'w pobl ifanc am eu gallu i lwyddo ym myd Addysg Uwch.

Hyfforddiant proffesiynol

Rydyn ni’n cyflwyno sesiynau hyfforddi 2.5 awr o hyd a'r nod yw rhoi'r offer a'r wybodaeth i weithwyr proffesiynol er mwyn iddyn nhw allu cefnogi'r bobl ifanc anhygoel hyn yn well wrth iddyn nhw bontio i fyd addysg uwch.

Cysylltu a ni i gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu sesiwn.

Tîm Ehangu Mynediad