Glasu Cathays
Profwyd bod mannau gwyrdd awyr agored o fudd i les a gwytnwch.
Mae ymchwil wedi dangos y gall defnydd cynyddol o fannau gwyrdd leihau problemau iechyd tymor hir fel clefyd y galon, canser a chyflyrau cyhyrysgerbydol - a lleddfu difrifoldeb symptomau sy'n gysylltiedig â straen. Mae bod o amgylch natur yn ein tawelu ac yn tynnu ein meddyliau oddi ar fusnes bywyd bob dydd a sefyllfaoedd llawn straen.
Mewn arolwg diweddar o Cathays, nododd preswylwyr awydd am fwy o fannau gwyrdd mewn rhannau adeiledig o'r ward. Yn 2020, mewn partneriaeth â phrosiect Pharmabees, creodd y cyngor dair dysgl planhigion ar hyd Fanny Street.
Yn hydref 2020, cyn y cyfnod clo, plannwyd yr hadau hyn yn y dysglau planhigion yn Fanny Street:
- eurflodau bach
- lafant
- eirlys
- bleidd-dag y gaeaf
- cennin Pedr
- britheg
- clychau'r gog
Rhoddwyd cymysgedd arbrofol o hadau bodau gwyllt cyfeillgar i bryfed peillio gan gynnwys y deg planhigyn canlynol;
- y bengaled gyffredin
- llygad llo mawr
- lluglys gwyn
- dant y llew
- penlas yr ŷd
- pabi'r ŷd
- melyn yr ŷd
- camri'r ŷd
- meillionen wen
- clychau’r gog
Mae'r holl blanhigion hyn wedi cael eu cyflwyno mewn ymdrech i greu darnau o wyrdd mewn anialwch trefol ac i ddarparu bwyd i bryfed ac adar. Mae mwy o wybodaeth am y blodau gwyllt hyn ar gael gan yr Ymddiriedolaeth Coetir a'r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt.
Cymerwch ran
Nawr bod y gwanwyn yn dychwelyd a diwedd y cyfnod clo ar y gorwel mae angen i ni ail-fywiogi'r prosiect ac i wneud hynny mae angen eich help arnom.
Os ydych chi am dyfu eich blodau gwyllt eich hun gyda'n cymysgedd o hadau Pharmabees, gweler ein canllaw adnabod planhigion (PDF).
Bydd y cynllun hwn yn cynyddu bioamrywiaeth ac yn lleihau allyriadau carbon. Trwy gynnig hafan ddiogel a ffynhonnell fwyd i beillwyr lleol, mae ardaloedd ail-wylltio yn caniatáu i bryfed fel gwenyn symud i fannau mwy heulog, a bwydo ar neithdar blodau gwyllt. Gyda phoblogaethau peillwyr yn mynd yn llai mae creu cynefinoedd amrywiol yn hanfodol i ddiogelu'r aelodau hollbwysig hyn o'r ecosystem.
Rydym hefyd yn chwilio am wirfoddolwyr cymunedol i'n helpu i dacluso, adnewyddu a monitro twf y planhigion wrth i fywyd ddychwelyd i'r ddinas. Mae angen gwirfoddolwyr lleol arnom hefyd i gofnodi nifer ac amrywiaeth y pryfed sy'n ymweld â'r planhigion hyn yn ystod yr haf gan ddefnyddio'r offer isod:
Bydd y wybodaeth hon rydym yn ein helpu i fonitro effeithiau newid yn yr hinsawdd a llygredd lleol ar fioamrywiaeth drefol.