Darganfod cyffuriau
Nod cychwynnol y fenter gyfan hon oedd dod o hyd i gyfansoddion y gellid eu defnyddio i frwydro yn erbyn archfygiau mewn ysbytai, a'n pwynt cychwyn oedd mêl.
Mae gan fêl briodweddau therapiwtig sy'n ganlyniad amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys siwgr uchel, pH isel, hydrogen perocsid, a pheptidau sy'n deillio o wenyn. Mae mêl hefyd yn cynnwys ffytogemegau gwrthficrobaidd sy'n cynnig llawer o bosibiliadau ar gyfer datblygu cyffuriau i drin heintiau microbaidd.
Cafodd samplau o fêl a roddwyd gan wenynwyr y DU (217) a samplau Manuka (3) eu sgrinio i weld a oeddent yn cynnwys cyfansoddion gwrthfacterol drwy weld a oeddent yn gweithredu yn erbyn staffylococws awrëws sy'n gwrthsefyll methisilin (MRSA) gan ddefnyddio trylediad cafn agar wedi'i optimeiddio a phrofion microwanediad potes. Dangosodd y rhan fwyaf o'r mathau o fêl weithgarwch ataliol. Cafodd ffactorau anhysbys eu hadnabod drwy niwtraleiddio cydrannau mêl gwrthfacterol a ddisgrifiwyd yn flaenorol yn y llenyddiaeth.
Canlyniadau
O'r samplau gafodd eu sgrinio gwelwyd bod pedwar ohonynt yn cynnwys cyfansoddion gwrthfacterol a allai fod yn newydd.
Mae'r paill sy'n bresennol mewn mêl yn cynrychioli cofnod o'r planhigion sydd wedi cyfrannu at wneud y mêl a gallent fod yn ffynhonnell ffactorau gwrthfacterol penodol. Am y rheswm hwn cafodd paill ei echdynnu o samplau mêl a oedd yn dangos lefelau uchel o weithgarwch gwrthficrobaidd. Cynhaliwyd dadansoddiad microsgopig a bar-godio meta DNA (454 ac Illumina). Roedd y rhywogaethau planhigion a nodwyd â bar-godio meta DNA yn cynnig gwahaniaethu gwell ac ailadroddadwyedd gwell.
Roedd y rhywogaethau allweddol yn y samplau gwrthfacterol yn cynnwys mandon (briwydd bêr), clychau'r gog (Hyacinthoides non-scripta) a dant y llew (Taraxacum officinale).
Roedd echdyniadau o fêl gweithredol a phlanhigion nodweddedig yn dangos gweithgarwch gwrthfacterol yn erbyn MRSA, E. coli a P. aeruginosa gan ddefnyddio dulliau'n seiliedig ar botes a dulliau troshaenu bioawtograffig chromatograffeg haen denau (TLC).
Cynhaliwyd nodweddu ar sail gweithgarwch gan ddefnyddio rhyngwyneb TLC/Sbectromedreg màs (MS) a chromatograffeg hylif perfformiad uchel (HPLC).
Roedd y cyfansoddion a nodwyd gan ddefnyddio'r dulliau hyn yn cynnwys deilliadau pinobanksin a chyfansoddion anhysbys eraill sy'n awgrymu mai'r planhigion yw ffynhonnell wreiddiol cyfansoddion gweithredol.
Camau nesaf
Mae gwaith yn mynd rhagddo i nodweddu'r cyfansoddion hyn ymhellach ac i asesu sut i'w defnyddio fel y genhedlaeth nesaf o wrthfiotigau.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych ddiddordeb yn yr ymchwil hon, cysylltwch â ni.