Meddyginiaethau hynafol
Ers miloedd o flynyddoedd, mae bodau dynol wedi defnyddio planhigion, metelau ac anifeiliaid i wella. Mae datblygiadau ym maes meddygaeth a fferylliaeth yn yr ugeinfed ganrif wedi arwain at symud i ffwrdd o'r dulliau traddodiadol, sy'n gwneud i wyddonwyr golli cysylltiad â'r wybodaeth a ddatblygodd yn y gorffennol.
Er mwyn ailgysylltu â'r gorffennol ac adnabod cyfansoddion sy'n gweithredu yn erbyn archfygiau sy'n gallu gwrthsefyll gwrthfiotigau, fe wnaethom ail-greu triniaethau mêl yn Materia Medica, sef testun meddygol sy'n dyddio yn ôl i'r Ganrif 1af a llyfr Myddfai, cyffurlyfr canoloesol o Gymru. Gwnaed hyn mewn partneriaeth â Dr Laurence Totelin o'r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd.
Gan ddefnyddio'r dull hwn, gwnaethom ganfod dau beth sy'n gallu gweithredu yn erbyn bacteria sy'n gwrthsefyll gwrthfiotigau ac sy'n berthnasol yn glinigol.
Camau nesaf
Yn ein gwaith yn y dyfodol byddwn yn canfod sylfaen y gweithgarwch newydd hwn er mwyn datblygu triniaethau newydd ar gyfer y pathogen problematig hwn.
Rydym hefyd yn bwriadu defnyddio canlyniadau'r gwaith hwn i gefnogi ein gweithgareddau ymgysylltu cyhoeddus ac fel sail ar gyfer datblygu deunyddiau addysgu fydd yn archwilio sut mae gan feddygaeth draddodiadol a chyfoes wreiddiau cyffredin.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych ddiddordeb yn yr ymchwil hon, cysylltwch â ni.