Ysgolion
![Disgyblion o Ysgol Gynradd Llanishen Fach](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0009/382950/hive-children.jpg?w=575&ar=16:9&q=80&auto=format)
Mae grant bach gan Ymddiriedolaeth Wellcome wedi'n galluogi ni i gychwyn prosiect peilot gyda naw o ysgolion Caerdydd.
Rhoddom ni naill ai gwch gwenyn neu dŷ chwilod i bob ysgol, ynghyd â deunyddiau priodol i'w hoed i gyd-fynd â chyfnodau allweddol y cwricwlwm cenedlaethol a phlanhigion sy'n croesawu gwenyn.
Bydd yr offerynnau hyn yn helpu'r ysgolion, sy'n cwmpasu ystod o grwpiau oedran a chefndiroedd amrywiol i integreiddio gwenyn a bioamrywiaeth yn eu haddysgu; a thrwy hynny ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr ac annog y myfyrwyr a'u rhieni i drawsnewid eu cymdogaethau'n fannau sy'n croesawu gwenyn.
Gyda chymorth pellach, gellid ehangu'r dull gweithredu hwn i weddill Caerdydd ac yn y pen draw ar draws y wlad gyfan.
![Child holding a bee smoker](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0004/1082866/children4.jpg?w=575&ar=16:9&q=80&auto=format)
Addysg bellach
Rydym ni hefyd wedi cydweithio'n agos â Coleg y Cymoedd ac wedi gosod cychod gwenyn yn eu campysau yn Nantgarw ac Ystrad Mynach. Yn ogystal â gweithio gyda'r myfyrwyr i gyfoethogi bioamrywiaeth pob campws, rydym ni hefyd wedi defnyddio'r prosiect hwn i greu cyfleoedd dysgu'n gysylltiedig â STEM fel ymweliadau gan fyfyrwyr â'r Brifysgol i ddysgu mwy am y wyddoniaeth sy'n sail i'r gwaith hwn.
Drwy'r gweithgareddau hyn rydym ni hefyd yn annog myfyrwyr i ystyried gyrfa mewn pwnc STEM, gan ehangu mynediad at addysg uwch a chynyddu'r nifer o fyfyrwyr o ysgolion gwladol yng Nghymru sy'n astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.
![Child looking at an illustration of a bee](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0005/1082867/children2.jpg?w=575&ar=16:9&q=80&auto=format)
Cymerwch ran
Cysylltwch â ni os hoffech wybod mwy, neu os oes gennych chi syniad yr hoffech chi ei drafod.