Mannau Gwyrdd y Cymoedd
Nod y prosiect hwn yw gwella iechyd a lles mewn cymunedau lleol drwy 'bresgripsiynu gwyrdd'.
Dull yw presgripsiynu gwyrdd sy'n cefnogi iechyd meddwl a chorfforol drwy roi cyfleoedd i bobl gysylltu â byd natur.
Mae deall, gwerthfawrogi a rhannu adnoddau naturiol lleol yn dod â phobl at ei gilydd, yn ysbrydoli balchder mewn cymunedau, yn codi lles meddyliol a chymdeithasol ac yn hybu buddsoddiad mewn economïau lleol.
Bydd y prosiect hwn yn gweithio gydag ysgolion lleol a'r gymuned i ddatblygu grŵp o wirfoddolwyr a fydd yn dylunio ac yn creu llwybr lles ar safle Ysbyty Ystrad Fawr.
Bydd y prosiect yn cynnal gweithgareddau gwyddoniaeth i ddinasyddion megis plannu blodau gwyllt, creu tirweddau trefol bioamrywiol megis cylchfannau blodau gwyllt a chynnal arolygon o fioamrywiaeth. Mae'r prosiect hefyd yn ceisio dod â byd natur i gartrefi pobl drwy ddosbarthu pecynnau hadau blodau gwyllt yn rhad ac am ddim.
Nod y prosiect yw cysylltu unigolion â byd natur ar garreg eu drws a chreu grwpiau o wirfoddolwyr i gefnogi mannau gwyrdd cymunedol mewn ardaloedd dan anfantais lle mae COVID-19 wedi effeithio ar anghydraddoldeb o safbwynt yr economi, iechyd, lles addysg a’r amgylchedd.
Cysylltu â ni
I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun Arloesedd i Bawb neu unrhyw un o'r prosiectau rydyn ni’n eu cefnogi, cysylltwch â ni: