Deall Iechyd Meddwl Mewn Cymunedau Mwslimiaid
Nod y prosiect hwn yw helpu i leihau anghydraddoldeb iechyd meddwl drwy hyrwyddo dealltwriaeth well o salwch meddwl mewn cymunedau Mwslimaidd.
Ym Mhrydain, mae Mwslimiaid yn fwy tebygol o ddioddef o salwch meddwl nag unigolion sy’n arddel ffydd arall. Er hynny, maent yn llai tebygol o ofyn am gymorth ffurfiol ar ei gyfer – a phan fyddant yn gwneud hynny, mae’r tebygolrwydd y byddant yn gwella’n is. Gellir lleihau’r anghydraddoldeb hwn drwy wella dealltwriaeth ymarferwyr iechyd meddwl o Islam a Mwslimiaid, gan gynnwys dealltwriaeth ymarferwyr crefyddol o salwch meddwl.
Helpodd y prosiect hwn i ariannu achrediad Coleg Brenhinol y Seiciatryddion o gwrs ar-lein newydd, ‘Deall Iechyd Meddwl Mewn Cymunedau Mwslimiaid’. Bydd y cwrs newydd hwn yn cael ei lansio ym mis Mai 2022. Bydd ymarferwyr iechyd, ymarferwyr gofal cymdeithasol ac ymarferwyr crefyddol ymhlith y rhai a fydd yn ei wneud.
Cysylltu â ni
I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun Arloesedd i Bawb neu unrhyw rai o'r prosiectau rydym yn eu cefnogi, cysylltwch â ni:
Civic Mission
Cymerwch ran yn ein cwrs Deall Iechyd Meddwl Mwslimaidd ar FutureLearn, sy'n dechrau ar 16 Mai 2022.