Cymuned Ddigidol Treorci: Adfer yn sgîl COVID-19
Cymuned leol ffyniannus yng nghwm Rhondda Fawr yw Treorci, lle ceir amrywiaeth o fusnesau lleol annibynnol.
Nod y prosiect hwn yw digideiddio’r Stryd Fawr drwy weithio gyda’r rhai sy’n berchen ar fusnes bach ac arweinwyr y gymuned i ddatblygu ap a phlatfform gwe ar gyfer e-fasnach, twristiaeth, gweithgareddau celfyddydol a diwylliannol, llwybrau trefol a bwyd a diod.
Bydd yr ap yn adnodd i farchnata a hyrwyddo siopa ar-lein yn lleol, twristiaeth a’r celfyddydau, a hynny dan arweiniad y gymuned. Mae’r prosiect hwn yn dod â thechnoleg a’r gymuned ynghyd er mwyn cysylltu busnesau bach ag ymwelwyr a chwsmeriaid presennol a newydd a helpu’r dref i adfer yn sgîl COVID-19.
Prosiect cydweithredol yw hwn rhwng Ysgol Busnes Caerdydd, Cymdeithas Fasnach Treorci a’r gymuned o fusnesau yn Nhreorci. Byddant yn gweithio gyda’i gilydd i helpu busnesau lleol ac aelodau’r gymuned i elwa o’r platfform digidol.
Cysylltu â ni
I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun Arloesedd i Bawb neu unrhyw rai o'r prosiectau rydym yn eu cefnogi, cysylltwch â ni: