Cyfiawnder Masnach Cymru
Nod y prosiect hwn yw rhoi llais i gymdeithas sifig Cymru ym maes polisïau masnach ar ôl Brexit.
Ar ôl Brexit, mae’n rhaid i'r DU sefydlu ei pholisïau a'i chytundebau masnach ei hun. Bydd hyn yn digwydd ar lefel y DU a bydd cyfleoedd cyfyngedig i gyfrannu o Gymru.
Bydd y prosiect hwn yn creu fforwm sy'n rhoi llais i sefydliadau yng Nghymru i sicrhau bod polisïau masnach yn cyflawni uchelgeisiau Cymru ar gyfer datblygu cynaliadwy, gan fod y rhain yn hynod bwysig i lywio adferiad economi Cymru yn sgîl COVID-19.
Yn sgîl y prosiect hwn, bydd gan gymdeithas sifig yng Nghymru y sgiliau a'r wybodaeth i graffu ar gytundebau sy'n dilyn safonau ac amcanion uchelgeisiol mewn meysydd pwysig megis lles anifeiliaid, newidiadau yn yr hinsawdd, yr amgylchedd, cydraddoldeb, masnach deg, bwyd, hawliau llafur, materion cymdeithasol, iechyd a datblygu cynaliadwy, yn ogystal ag eirioli dros y rhain.
Cysylltu â ni
I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun Arloesedd i Bawb neu unrhyw un o'r prosiectau rydyn ni’n eu cefnogi, cysylltwch â ni: