Rhannu ac atgyweirio nwyddau ym Mhrifysgol Caerdydd
Mae'r defnydd o adnoddau byd-eang yn parhau i gynyddu mewn ffordd anghynaliadwy. Un ffactor allweddol sy'n cyfrannu yw hyd oes byr eitemau bob dydd.
Mewn ymateb i hyn, mae'r 'Economi Gylchol' wedi ennill tir yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn ddull sy'n rhoi blaenoriaeth i’r broses o atgyweirio, ailddefnyddio ac ail-weithgynhyrchu nwyddau yn hytrach na’u hailgylchu a’u gwaredu ar ddiwedd eu hoes. Mae hyn wedi arwain at bolisïau rhyngwladol a chenedlaethol, yn ogystal ag ystod gynyddol o symudiadau cymdeithasol ac elusennau sydd â’r nod o hwyluso'r economi gylchol. Mae hyn yn cynnwys cynlluniau megis 'llyfrgelloedd pethau' lle bydd nwyddau a roddir a nwyddau nad ydyn nhw’n ddarfodus yn cael eu benthyg; a Chaffis Trwsio, lle mae gwirfoddolwyr yn cwrdd â’i gilydd ac yn trwsio eitemau cartref yn rhad ac am ddim - eitemau a fyddai fel arall yn cael eu gwaredu’n wastraff.
Mae'r prosiect hwn yn gweithio gyda Benthyg Cymru a Chaffi Trwsio Cymru i greu rhagor o arferion 'economi gylchol' ar gyfer ein myfyrwyr fydd yn arwain at newidiadau mewn ymddygiad er mwyn lleihau'r adnoddau y maen nhw’n eu defnyddio a'u gwastraffu.
Yn sgîl y prosiect hwn, gall myfyrwyr sy'n byw yn y ddinas ddefnyddio eitemau o safon uchel y gellir eu benthyg yn ogystal â gwasanaeth trwsio fel na fydd nwyddau defnyddwyr yn mynd i safleoedd tirlenwi.
Cysylltu â ni
I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun Arloesedd i Bawb neu unrhyw un o'r prosiectau rydyn ni’n eu cefnogi, cysylltwch â ni: